Clwb y Mis
Clwb y Mis – Mis Ionawr 2026

Ionawr 2026

Enw y Clwb:
Clwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Ogwen
Nifer o Aelodau:
32
Lleoliad Cwrdd:
Clwb Rygbi Bethesda
Disgrifiwch eich Clwb mewn 3 gair:
Hwyl, Eginol & Cystadleuol
Hoff Weithgaredd Noson Clwb:
Un o’r hoff nosweithiau ein clwb ni yw noson gemau gwirion. Fel arfer mae hyn yn digwydd yn fuan yn y calendr fel bod aelodau newydd yn cael ei croesawu ac yn cael blas o’r hwyl yn syth.
Cyflawniadau Codi Arian:
Yn ystod y flwyddyn rydym wedi cynnal noson helfa trysor ceir ei mwyn codi arian i’r clwb ac wedi bod yn stiwardio parcio ceir yn Ŵyl Nadolig Glynllifon.
Gweithio o fewn y Gymuned:
Mae ein aelodau wedi bod yn stiwardio ar Daith Tractor o amgylch Bethesda, ‘Santas Grotto’ yn y ffair Nadolig lleol, codi ymwybyddiaeth y clwb yn Sioe Amaethyddol Dyffryn Ogwen a chynhaliwyd dathliad 80fed mlynedd yn Clwb Rygbi Bethesda, roedd hwn yn noson hwyl ac oddi’n braf iawn gweld cyn-aelodau’r clwb yn dod yn ôl at ei gilydd i hel atgofion.
Hoff gystadlaethau:
Barnu Stoc
Sut ydych chi’n defnyddio’r Gymraeg?
Cymraeg yw prif iaith yn holl weithgareddau’r clwb.
Unrhyw ffeithiau difyr neu sloganau eraill
Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus i ni fel clwb. Curodd Clwb Dyffryn Ogwen Rali Eryri am y tro cyntaf ers 1947! Hefyd fuodd ein clwb yn llwyddiannus iawn wrth guro ein ffair aeaf sirol am y tro cyntaf erioed!







