Newyddion CFfI Cymru
Mae CFfI Cymru yn dathlu 90 blwyddyn o effaith gyda Lansiad Adroddiad Carreg Filltir
Ar ddydd Mawrth 27 Ionawr 2026 yn y Senedd – bydd Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru (CFfI) yn falch i nodi eu penblwydd yn 90 gyda lansiad eu Adroddiad Effaith 90 mlynedd, yn dathlu naw degawd o gyflawniad, twf a chyfraniad parhaol i gymunedau dros Gymru.
Wedi’i sefydlu yn 1936, mae CFfI Cymru wedi bod yng nghalon bywyd gwledig, yn grymuso cenedlaethau o bobl ifanc drwy ddatblygu arweinyddiaeth, hyfforddiant sgiliau ac ymrwymiad cymunedol. Mae Adroddiad Effaith 90 mlynedd ynamlygu ymrwymiad barhaol y sefydliad i gefnogi ‘r genhedlaeth nesaf o arweinyddion gwledig, arddangos cerrig milltir allweddol, storïau aelodau, a’r dylanwad bositif mae CFfI wedi cael ar amaeth, addysg, yr Iaith Gymraeg a hefyd iechyd a lles.
Angharad Thomas, Cadeirydd CFfI Cymru: “Yn ogystal ag adlewyrchiad o ein gorffennol mae’r Adroddiad hefyd yn ddathliad o’r bobl ifanc anhygoel sy’n gwneud CFfI beth ydyw heddiw ac yn ymrwymiad i ffurfio dyfodol disglair i Gymru wledig.”
Fe fydd digwyddiad y lansiad yn cymryd lle ar ddydd Mawrth 27 Ionawr 2026 yn y Senedd, Bae Caerdydd, 6yh, yn casglu at ei gilydd aelodau a rhanddeiliaid i ddathlu 90 mlynedd o effaith ac edrych ymlaen i bennod nesaf o daith CFfI Cymru.
Am rhagor o wybodaeth ac i gael golwg ar yr Adroddiad Effaith 90 mlynedd llawn, cliciwch ar y botwm isod.