Newyddion CFfI Cymru
Sir Gâr yn cael ei goroni’n enillwyr yn Eisteddfod Genedlaethol CFfI Cymru 2025
Theatr Hafren yn Drenewydd oedd cartref balch Eisteddfod Genedlaethol CFfI Cymru 2025. Ar Dachwedd 15fed, croesawodd CFfI Maldwyn gystadleuwyr a chefnogwyr o bob cwr o Gymru i’w sir ar gyfer diwrnod o gystadlu cyffrous, dathlu a diwylliant Cymraeg. Eleni, cadeirydd yr Eisteddfod oedd Lynfa Jones, gyda Aled Wyn Davies fel Llywydd yr Eisteddfod.
Cymerodd dros 800 o gystadleuwyr o 12 ffederasiwn sirol ran mewn ystod eang o gystadlaethau, wedi’u noddi’n garedig gan James Pantyfedwen, Castell Howell, Hafren Veterinary Group, Hafren Furnishers, Field Mouse, cangen Maldwyn o FUW, Coed y Bryn Nurseries, BSW Group – Tilhill a Barcud.
Roedd y cystadlaethau’n cwmpasu cerddoriaeth, adrodd, adloniant ysgafn a’r adran gwaith cartref – gan gynnwys ysgrifennu, celf a ffotograffiaeth.
Ar ôl diwrnod llawn o gystadlu, Sir Gâr ddaeth i’r brig fel enillwyr Tarian Mansel Charles. Daeth Sir Benfro yn ail, a ddaeth CFfI Ceredigion a CFfI Maldwyn yn gydradd drydydd.

Un o uchafbwyntiau’r diwrnod oedd y Seremoni Cadeirio a Choroni, dan arweiniad Angharad Lewis. Noddir y Gadair eleni gan Coed y Bryn Nurseries ac fe’i creuwyd gan gyn-aelod o CFfI Aberriw, Paul Philips. Dyfarnwyd y Gadair i Mared Fflur Jones o CFfI Rhosybol, Ynys Môn, tra cipiodd Fflur Hâf James o CFfI Eglwyswrw, Sir Benfro, y Goron a grëwyd gan David Dart a Robi Wood o CFfI Cegidfa.

Roedd yr Eisteddfod yn llawn canlyniadau drwy gydol y dydd.
Dyfarnwyd y canlynol i unigolion:
- Cwpan Parcwilws (Perfformiad gorau Sioe Gerdd/Ffilm): Daniel O’Callaghan, Sir Gâr CFfI
- Cwpan Ardudwy (Yr unigolyn gorau yn yr Adran Gerddoriaeth): Daniel O’Callaghan, Sir Gâr CFfI
- Cwpan CFfI Cymru (Yr unigolyn gorau yn yr Adran Adrodd): Daniel O’Callaghan, Sir Gâr CFfI
- Cwpan Joy Cornock (Yr unigolyn Mwyaf Addawol yn yr Eisteddfod): Cari Lovelock, Ynys Môn


Cwpan Joy Cornock (Yr unigolyn Mwyaf Addawol yn yr Eisteddfod): C


Cystadlodd saith côr yn y gystadleuaeth Côr, gan berfformio “Cana imi Gân o Heddwch”. Daeth CFfI Meirionnydd yn gyntaf gan ennill Cwpan Dyffryn Tywi, CFfI Sir Gâr yn ail a CFfI Maldwyn yn drydydd.

Dyfarnwyd gwobrau nodedig eraill, gan gynnwys:
- Tlws Undeb Amaethwyr Cymru Sir Ddinbych (adran gwaith cartref): Ceredigion CFfI
- Tarian Elonwy Phillips (y ffederasiwn sy’n ennill yr adran llwyfan): Sir Gâr CFfI


Mae CFfI Cymru’n estyn diolch o galon i’r holl gystadleuwyr, stiwardiaid, beirniaid, cyfeilyddion, a phwyllgor Maldwyn am eu gwaith caled wrth wneud Eisteddfod 2025 yn llwyddiant ysgubol.
Llongyfarchiadau i Sir Gâr ar ennill Tarian Mansel Charles am ddod yn fuddugol yn holl gystadlaethau’r eisteddfod, ac edrychwn ymlaen at groesawu pawb i Eisteddfod CFfI Cymru 2026, a gynhelir gan CFfI Ceredigion.
