Newyddion CFfI Cymru
CFfI Cymru yn dathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid yn Pierhead, Bae Caerdydd
Bae Caerdydd, 25 Mehefin 2025 — Cynhaliodd Clybiau Ffermwyr Ifanc (CFfI) Cymru arddangosfa gwych yn Adeilad eiconig y Pierhead ym Mae Caerdydd, i ddathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid ac i gydnabod cyfraniadau rhagorol pobl ifanc ledled cefn gwlad Cymru.
Cynhaliwyd y digwyddiad rhwng 12:00yp a 1:30yp, gan ddod ag aelodau, cefnogwyr a gwesteion at ei gilydd i ddangos effaith drawsnewidiol gwaith ieuenctid o fewn mudiad CFfI. Cafodd y mynychwyr gyflwyniad deinamig am lwyddiannau a straeon personol gan aelodau CFfI Cymru, gan ddangos ymrwymiad y sefydliad i ddatblygu arweinyddiaeth, ymgysylltiad cymunedol a sgiliau bywyd.






Uchafbwynt allweddol y digwyddiad oedd cyflwyno’n ffurfiol y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid – Gwobr Efydd i CFfI Cymru, gan gydnabod rhagoriaeth y sefydliad wrth ddarparu gwasanaethau ieuenctid. Mae’r wobr fawreddog hon yn tanlinellu ymroddiad a phroffesiynoldeb gwirfoddolwyr a staff CFfI wrth gefnogi pobl ifanc ledled Cymru.

Noddwyd y digwyddiad yn hael gan Samuel Kurtz AS, cyn-aelod gweithgar o CFfI Sir Benfro, gyda chefnogaeth gan Gronfa Elusennol NFU, a gyfrannodd at wireddu’r dathliad.

Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Cadeirydd CFfI Cymru Dewi Davies:
“Mae’r arddangosfa hon yn dyst i ymroddiad ac angerdd ein haelodau a’n gwirfoddolwyr. Rydym yn falch iawn o dderbyn gwobr Marc Ansawdd a bod yn rhan o fudiad sy’n grymuso pobl ifanc i arwain, dysgu a ffynnu yn eu cymunedau.”
Roedd yr arddangosfa’n cynnwys arddangosfeydd rhyngweithiol, straeon personol gan aelodau CFfI, a dathliad o’r gweithgareddau amrywiol sy’n gwneud CFfI Cymru yn gonglfaen i fywyd ieuenctid gwledig.
Am fwy o wybodaeth am CFfI Cymru a digwyddiadau sydd ar y gweill, ewch i Cartref – CFfI Cymru