Clwb y Mis

Clwb y Mis – Gorffennaf 2024

Gorffennaf 2024

CFfI Uwchaled

Enw y Clwb:

Clwb Ffermwyr Ifanc Uwchaled

Nifer o Aelodau:

Tua 60

Lle Rydych chi’n Cyfarfod:

Yng Nghanolfan Cerrigydrudion ar Nos Lun

Disgrifiwch eich Clwb mewn 3 gair:

Cynhwysol, Angerddol, Hwyliog!

Hoff Weithgaredd Noson Clwb:

Mae cymaint o nosweithiau clwb trwy’r flwyddyn ac mae’n anodd cynnal rhywbeth sydd at ddant pawb, ond un noson mae pawb yn fwynhau ydi noson Bingo!  Rydym hefyd yn ceisio trefnu tripiau allanol sydd bob amser yn plesio, ac yn ddiweddar wedi ymweld â Zip World, oedd yn noson llawn hwyl, chwerthin, a bod yn blant bach unwaith eto!

Cyflawniadau Codi Arian:

Mae codi arian ar frig y rhestr ym mhob pwyllgor blynyddol gennym, ac rydym bob amser yn ceisio meddwl am syniadau newydd. Uchafbwynt y flwyddyn yma oedd cyflwyno siec o £1245 i Ysgol y Gogarth yn Llandudno, sef ysgol i blant gydag anghenion arbennig. Mae un o’n haelodau yn mynychu’r ysgol, felly roedd yn bwysig iawn i ni fel Clwb ein bod yn gallu cyfrannu at ysgol mor werthfawr. Casglwyd yr arian ar daith tractors o gwmpas Uwchaled. Rydym hefyd yn rhoi arian yn flynyddol i’r Ambiwlans Awyr, ac eleni, wedi rhoi i elusen Ymwchil Canser ar ôl casglu canoedd ar ein taith Sion Corn dros y Nadolig.

Gweithio o fewn y Gymuned:

Mae’r gymuned yn bwysig iawn i ni yn Uwchaled. Cymuned Gymreig a gwledig dros ben, felly mae cynnal gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg yn lleol yn holl bwysig. Mae gennym stondin ar gae Sioe Cerrigydrudion bob blwyddyn gyda gweithgareddau i blant. Ni sydd hefyd yn rhedeg y bar yn ystod y ddawns gyda’r nos, sy’n dipyn o dasg! Rydym hefyd yn cefnogi’r ganolfan leol yn flynyddol yn eu noson goleuo’r goeden Nadolig yng Ngherrigydrudion, a ni sydd yng ngofal y groto Sion Corn. Daeth bron i 100 o blant i’n gweld eleni! Mae cynnal cyngherddau yn y gymuned hefyd yn bwysig i ni. Rydym yn cynnal cyngerdd eitemau’r Eisteddfod pob gaeaf, ac mae gennym ddrama a sgets yn perfformio yn y nosweithiau Dramau gomedi blynyddol bob mis Ionawr. Eleni, mae’n braf gweld y potiau blodau a roddwyd fel rhodd i’r gymuned gan y clwb ar ein dathliad 70 oed yn edrych yn hyfryd ac yn llawn planhigion lliwgar ar draws yr ardal.

Hoff gystadlaethau:

Mae’n amhosib rhoi un gystadleuaeth fel ffefryn, gan fod pawb yn hoffi pethau gwahanol, a dyma sydd mor werthfawr am yr CFfI – mae cyfleoedd i bawb o bob gallu i wneud pethau gwahanol. Byddai rhai’n dweud mai cystadleuthau’r Rali, fel tynnu rhaff, yw eu ffefryn, ac eraill yn mwynhau ysgrifennu creadigol ac ennill cadeiriau yn yr Eisteddfod. Mae gennym hefyd griw mawr o tua 15 yn cystadlu yng nghystadleuthau gosod blodau yn flynyddol. Mae na rywbeth i bawb! 

Sut ydych chi’n defnyddio’r Gymraeg?

Y Gymraeg yw prif iaith y clwb. Wrth gwrs, mae croeso i aelodau di-Gymraeg ymuno hefo ni, ond rydym yn lwcus iawn yn Uwchaled o fod yr ardal gyda’r mwyaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghonwy. Rydym bob amser yn cystadlu a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae ein gweithgareddau yn y gymuned hefyd gyda phwyslais enfawr ar y Gymraeg, sy’n ganlyniad naturiol o fyw mewn ardal ble mae’r mwyafrif yn siarad yr iaith.

Unrhyw ffeithiau neu sloganau hwyliog eraill a.y.y.b

Ysgrifennwyd yr englyn yma gan un o’n haelodau, Llywela, ar achlysur dathlu’r clwb yn 70 oed.

Yn gywion llon, dewch yn llu, i brofi

mor braf yw cystadlu,

ac a grym y miri’n gry’,

Uwchaled fydd yn chwalu!