Blog yr Aelodau

Ynys Manaw 2023

Fe wnaethon ni ddal i fyny gyda Phoebe Hole o CFfI Gwent i glywed am daith Ynys Manaw!

Dyma oedd fy nhaith gyntaf gyda CFfI Cymru fel rhan o’u rhaglen deithio ac roeddwn i’n ddigon ffodus i gael lle ar fy newis cyntaf sef taith Ynys Manaw! Dwi ond wedi bod yn aelod ffermwr ifanc am flwyddyn felly dwi’n weddol newydd i’r cyfan ond yn sicr fod y daith yma wedi bod yn un o’r profiadau gorau dwi wedi ei gael hyd yn hyn. Teithiais gyda grŵp anhygoel o bobl rwy’n ffodus o fod wedi’u cyfarfod, yn bendant byddwn yn parhau i fod yn ffrindiau! Cawsom cymaint o gyfleoedd anhygoel yn ystod ein taith, o deithiau fferm, i ymweliad sioe, i gymdeithasu gyda ffermwyr ifanc IOM, roeddent i gyd yn groesawgar ac yn garedig iawn ac roeddem yn ffodus i gwrdd a gwneud ffrindiau gyda llawer ohonynt, gobeithio y gallwn weld nhw eto! Rwy’n ffodus iawn o fod wedi cael taith mor wych lle roeddwn yn gallu cyfarfod pobl wych ac rwy’n bendant yn edrych ymlaen at lawer mwy o gyfleoedd teithio drwy raglen CFfI Cymru!