Blog yr Aelodau

Athens 2023

Fe wnaethon ni ddal i fyny gyda Seren Phillips o CFfI Sir Benfro i glywed am y daith Ddirgel i Athens!

Roeddwn wrth fy modd â’r daith ddirgel a rhoddodd gyfle i mi gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau newydd a chan nad oeddem yn gwybod i ble’r oeddem yn mynd tan y funud olaf roedd yn golygu ein bod wedi cael taith hamddenol iawn. Roeddwn i wrth fy modd gyda’r holl olygfeydd, wedi dysgu llawer a byddwn yn bendant yn argymell cymryd rhan mewn teithiau CFfI dramor.