Blog yr Aelodau

Rali Ewropeaidd 2022 – Yr Almaen

Cawsom sgwrs gydag arweinydd tîm Cymru, Elen Bowen o CFfI Sir Gaerfyrddin, i glywed popeth am eu profiad yn Rali Ewropeaidd Ieuenctid Gwledig Ewrop yn Nienburg, yr Almaen.

Rwy’n teimlo’n ddiolchgar fy mod wedi cael y cyfle i arwain tîm gwych CFfI Cymru yn y Rali Ewropeaidd yn Nienburg, yr Almaen – am wythnos bythgofiadwy! Profiad y byddaf yn ei drysori am byth. Nid yn unig y gwnaethom ehangu ein dealltwriaeth am arferion cynaliadwy o bob rhan o Ewrop, ond fe wnaethom greu cyfeillgarwch gydol oes gyda chyfranogwyr o bob rhan o’r cyfandir. Diolch i Rural Youth Europe am drefnu digwyddiad mor wych ac i CFfI Cymru am y cyfle i gynrychioli fy nghlwb, sir a gwlad! Os nad ydych chi wedi profi teithiau tramor mudiad y Ffermwyr Ifanc eto, beth ydych chi’n aros amdano? Ewch amdani! Newchi ddim dyfaru.