Blog yr Aelodau

Interrailing 2022

Fe wnaethon ni ddal i fyny gyda Sioned Davies o CFfI Ceredigion i glywed popeth am ei phrofiad yn ‘Interrailing’ ar draws Ewrop!

Bu 9 aelod o’r mudiad ar daith Interrailo o amgylch Ewrop yn ystod y pythefnos diwethaf. Wrth deithio ar drên o ddinas i ddinas gwelwyd tirnodau amrywiol, blasu bwydydd gwahanol a mwynhau eu diwylliant. Roedd yn daith bythgofiadwy ac mae’r criw yn annog i aelodau presennol y mudiad i ymgeisio am deithiau tramor y mudiad.