Newyddion

Cystadleuaeth Prif Gynhyrchwr Porc 2024!

Yn ystod seremoni canlyniadau dydd Mercher yn Y Sioe Frenhinol, cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Gwledig yr aelodau llwyddiannus ar gyfer Cystadleuaeth Prif Gynhyrchwr Porc CFfI Cymru 2024. Bu nifer fawr o geisiadau cryf eleni gyda saith aelod yn llwyddiannus yn eu hymgais i gychwyn menter moch eu hunain.


Yr aelodau llwyddiannus eleni yw: Lisa o Sir Gaerfyrddin, Japp o Sir Benfro, Janet o Geredigion, Rebeca o Geredigion, Dominic Hampson-Smith o Gwent, Sioned o Sir Benfro a Gwenan o Sir Benfro.

Teithiodd yr aelodau llwyddiannus i lawr i Fferm Willhome Farm, Hwlffordd trwy garedigrwydd Mr Stuart Williams ai deulu ar ddydd Llun y 12fed o Awst i fynychu eu diwrnod hyfforddiant cyntaf.

Dechreuodd y diwrnod gyda’r aelodau yn cael taith o gwmpas y moch oedd gan Stuart ar y fferm gan ddechrau wrth weld y moch bach a’u mamau cyn symud ymlaen at y moch 6 mis oed oedd yn cael eu cadw at ddod i’r haid er mwyn magu. Yna cawson weld yr hychod a’r badd. Yn ystod y sesiwn yma cafodd yr aelodau siawns i ddal y moch bach, a deall sut oedd eu trin pan yn ifanc. Yna dysgu am nodweddion y mochyn a deall sut oedd adnabod mochyn iach neu beidio. Dangosodd Stuart pa fwyd oedd yn bwydo iddynt ag ychydig ar sut oedd arddangos y moch mewn Sioe. Trwy gydol y bore bu’r aelodau yn gofyn cwestiynau er mwyn dyfnhau eu dealltwriaeth ar sut i edrych ar ôl a magu moch.

Lucy Chubb o Farm First Vets oedd yng ngofal sesiwn y prynhawn lle bu yn siarad am y ddeddfwriaeth wahanol a’r gofynion hanfodol sydd rhaid eu cwblhau wrth fynd ati i gadw moch. Roedd yn sesiwn hynod o addysgiadol a dwi’n siŵr y bydd Lucy yn fwy na pharod i ateb unrhyw gwestiwn sydd gan yr aelodau pan fyddant wedi derbyn eu moch.

Hoffai CFFI Cymru ddiolch i’r canlynol am eu cefnogaeth yn ystod y diwrnod hyfforddi yma. Teulu Williams am y croeso yn ystod y diwrnod ag am fod mor barod i’n helpu gyda’r gystadleuaeth. Cyswllt Ffermio am gydweithio gyda ni fel Mudiad u rhedeg y gystadleuaeth ag am gynnig cyrsiau i’r aelodau sy’n cystadlu ag am drefnu’r siaradwyr yn ystod y sesiynau hyfforddi gan gynnwys Lucy Chubb yn y sesiwn yma. Diolch felly I Lucy am deithio atom ag am rannu ei arbenigaeth. Mae ein diolch yn fawr i’r NFU Mutual Charitable Trust am eu cymorth i gynnal y gystadleuaeth ag am roi sylfaen i’r aelodau ar ddechrau ei mentrau newydd.

Beth sydd nesaf?

Bydd y 7 ymgeisydd yn derbyn 4 diddyfwr ym mis Medi gyda’r bwriad o’u harddangos yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru 2024. Dyma’r ail flwyddyn i CFfI Cymru gynnal y gystadleuaeth hon. Eleni, mae elfen newydd i’r gystadleuaeth lle gofynnir i bob cystadleuydd ladd dau o’u moch fel y gellir eu barnu ar ansawdd cig a gorchudd. Bydd tair elfen wahanol y gystadleuaeth yn cael eu marcio ar wahân. Bydd y cystadleuwyr sydd â’r pwyntiau uchaf ar ddiwedd y gystadleuaeth yn cael eu cyhoeddi yng Ngwobrau Amaeth CFfI Cymru ar 11 Ionawr yn Rose Dew, Llanilltud Fawr.