Newyddion CFfI Cymru

Ystradfellte yn ennill Cwpan Elusennol FfCCFfI

Dyfarnwyd Cwpan Elusennol Clwb FfCCFfI Lionel J Hill MBE eleni i CFfI Ystradfellte o Frycheiniog am godi £19,910.20 – sy’n cyfateb i £765.78 yr aelod.

Casglodd Cadeirydd y Clwb, Chloe Smith, y tlws ar ran y clwb a dywedodd ei bod yn “falch” o’r holl aelodau am godi swm mor fawr o arian.

“Mae CFfI yn bwysig iawn i’n cymuned. Rydym yn ceisio codi arian ar gyfer elusennau sydd wedi helpu ein cymuned. Rydyn ni’n codi swm eithaf mawr i’r elusennau hynny sy’n golygu rhywbeth i ni,” meddai Chloe am y rhediad tractor a gynhaliwyd gan y clwb i godi arian ar gyfer ysbyty Great Ormond Street (GOSH) i gefnogi nith aelod sydd â chyflwr cyfyngu ar fywyd.

Yn ogystal â GOSH, mae CFfI Ystradfellte hefyd wedi rhoi £1,000 i Guts UK a symiau llai i 3 banc bwyd, Elusen Ysbyty Plant Arch Noa (Ysbyty Plant Cymru) a Tŷ Hafan (hosbis plant Cymru).

Dros y flwyddyn ddiwethaf roedd CFfI Ystradfellte hefyd yn freintiedig o gynrychioli Cymru ar ôl cyrraedd rhestr fer Clwb Ffermwyr Ifanc y Flwyddyn Gwobrau Ffermio Prydain.  Roedd hyn yn cydnabod ein gwaith cymunedol a’n codi arian ac arweiniodd at daith i Fferm Cannon Hall ar gyfer y seremoni wobrwyo a’r ymddangosiadau ar S4C ac ITV Cymru.

Roedd yn wych gweld y gydnabyddiaeth hon gan FfCCFfI i orffen y flwyddyn.