News

Torri Record Ceisiadau ar gyfer Rhaglen Ryngwladol CFfI Cymru

Ddydd Sul 8 Hydref, aeth aelodau o bob rhan o Gymru i Ganolfan CFfI Cymru yn Llanfair-ym-Muallt ar gyfer Diwrnod Dethol Rhaglen Ryngwladol CFfI Cymru.

Roedd tri taith ar gael gyda ‘Rural Youth Europe’ (RYE) sy’n galluogi cyfarfod aelodau o sefydliadau ieuenctid eraill dros Ewrop. Mae’r cyntaf i Budapest ar gyfer seminar astudio’r Gwanwyn lle bydd dau aelod yn teithio mis Ebrill nesaf. Mae’r ail daith gyda RYE yn cael ei chynnal ym Mis Gorffennaf, lle bydd pum aelod o Gymru yn teithio i Estonia ar gyfer Rali Ewropeaidd RYE. Bydd taith olaf RYE yn cael ei chynnal Mis Hydref nesaf lle mae dau aelod o CFfI Cymru wedi eu dewis i gynrychioli yn Latfia!


Mis Mehefin nesaf bydd 12 aelod yn mynd ar daith fythgofiadwy i Ganada. Bydd y daith yn
dechrau yn Vancouver ac yna yn gorffen yn Calgary ar gyfer y Calgary Stampede enwog. Ym mis Gorffennaf bydd wyth aelod o ar draws Cymru yn teithio i Ynys Wyth am antur 4 diwrnod, i fwynhau golygfeydd yr ynys. Bydd y daith yn cynnwys cyfle i gwrdd ag aelodau o’r un anian a mwynhau gwibdeithiau i ffermydd ac atyniadau lleol gan gynnwys diwrnod allan yn Sioe Frenhinol Ynys Wyth.

Bydd 10 aelod anturus yn mynd ar Daith Ddirgel CFfI Cymru i grwydro dinas yn Ewrop am 5 diwrnod, gan werthfawrogi golygfeydd a synau eu lleoliad, ond ni fyddan yn gwybod lle tan fyddan nhw ar yr awyren. Ym mis Awst bydd 8 aelod dewisol CFfI yn teithio i dde Iwerddon i gael cyfle i gwrdd â ffermwyr lleol a mwynhau diwylliant a golygfeydd Corc. Bydd y daith 4 diwrnod hon yn llawn golygfeydd ac ymweliadau amaethyddol.


Hoffai’r beirniaid ddiolch i bawb a fynychodd y diwrnod. Roedd y safon yn eithriadol o uchel ar draws y pum panel. Da iawn i bawb fu’n ddigon ffodus i gael taith, ac i’r rhai na lwyddodd i wneud y rhestr tro hwn, bydden wrth ein boddau’n eich gweld yn ymgeisio eto y flwyddyn nesaf!


Gan bawb yn CFfI Cymru hoffem hefyd ddiolch i bob un o’r 10 beirniad oedd gyda ni ar y diwrnod. Nid oedd yn dasg hawdd, felly hoffem ddiolch iddynt am eu hamser a’u gwaith caled. Roedd 95 ymgeisydd ar gyfer Rhaglen Ryngwladol 2024. Cynhaliwyd cyfanswm o 176 o gyfweliadau ar y diwrnod ddethol, gyda 44 o aelodau yn teithio y flwyddyn nesaf! I ddarganfod pa aelodau a ddewiswyd, ewch i’n sianeli cyfryngau cymdeithasol!