News

Taith Ieuenctid CFfI Cymru

Yn dilyn Taith lwyddiannus Fforwm Ieuenctid i Winter Wonderland yng Nghaerdydd yn Ionawr 2023, gwelwyd cyfle i drefnu taith arall ar gyfer aelodau iau’r mudiad.

Gyda theithio a chymdeithasu yn ffactorau annatod o fod yn Aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc, braf oedd cael aelodau o wyth sir ynghyd ar gyfer taith dros nos gyntaf aelodau iau’r mudiad. Mae rhaglen ryngwladol CFfI Cymru yn un arbennig yn flynyddol yn rhoi’r cyfle i gymaint o aelodau deithio ar draws y byd. Yn ystod y flwyddyn 2022-23, mi fydd 70 o aelodau wedi teithio gyda’r rhaglen i dros 10 o leoliadau. Eleni, roedd y Pwyllgor Rhyngwladol, drwy gyd-weithio gyda’r Fforwm Ieuenctid, yn awyddus i drefnu taith ychwanegol; taith dros nos ar gyfer aelodau iau y mudiad.

Mi ddaeth 25 aelod iau at ei gilydd, rhwng 11 a 17 mlwydd oed, i Aberystwyth ar Ebrill 22ain. Mudiad democrataidd yw CFfI Cymru, a chafodd yr aelodau ifanc y profiad o fod yn rhan o ddatblygiad y mudiad, gan fod sesiwn wedi’i chynnal yn holi am effaith y mudiad ar yr aelodau a’u datblygiad fydd yn cyfrannu at adroddiad effaith CFfI Cymru. Cafwyd sesiwn gan swyddogion Pwyllgor Rhyngwladol y mudiad i ddod i adnabod ei gilydd, gemau adeiladu tîm a chwaraeon. I ddechrau’r noson, cafwyd pitsa cyn croesawu ‘Jengyd’ atom am sesiwn adeiladu tîm o ‘escape room’, mi lwyddodd pob un o’r pum tîm i gwblhau’r dasg. Wrth aros yn Neuadd breswyl Byncws Prifysgol Aberystwyth, cafodd yr ieuenctid gyfle i brofi annibyniaeth wrth aros ar ben ei hunain, ac o bosib yn paratoi rhai hŷn ar y daith ar gyfer bywyd prifysgol yn y dyfodol. Cafwyd taith i Fferm Trawsgoed ar y bore Sul, i’r fferm odro a fferm magu lloi, roedd diddordeb mawr gan yr aelodau yn y peiriannau a’r ffordd wahanol o ffermio. 

Dywedodd Cerys, Cadeirydd Fforwm Ieuenctid; “Fy hoff beth am y penwythnos oedd gweld yr aelodau iau yn cymdeithasu a chymysgu, dyma oedd holl fwriad y daith.”

Yn ôl arolwg cafodd ei hanfon at rheiny wnaeth fynychu, roedd pawb wedi ymateb yn dweud eu bod wedi mwynhau cyfarfod pobl ar draws Cymru a chreu ffrindiau newydd. Braf oedd clywed tuag at ddiwedd y daith eu bod yn awyddus i weld ei gilydd eto. Bu’r daith ieuenctid yn un pwysig i fabwysiadu sgiliau CFfI i’r aelodau sydd yn eu blynyddoedd cynnar o fewn CFfI, cyfle i deithio, magu hyder, cymdeithasu a gweithio fel tîm. Y gobaith yw bydd mwy o ddigwyddiadau ar gyfer aelodau iau a bydd aelodaeth Fforwm Ieuenctid CFfI Cymru yn cynyddu.

Diolch yn fawr i’r rhai wnaeth gynnal sesiynau i ddiddanu’r criw, i’r pwyllgor rhyngwladol, Jengyd a Fferm Trawsgoed, hefyd i brifysgol Aberystwyth am fod yn lleoliad delfrydol ar gyfer y penwythnos. Ymlaen at y nesaf!