Newyddion CFfI Cymru
Taith Astudio Materion Gwledig 2025
Am 4 diwrnod gwych a chafodd criw o aelodau CFfI Cymru yn Ffrainc! Daeth y 40 aelod at ei gilydd yn Faes Awyr Birmingham Dydd Mercher yr 8fed o Hydref i ddechrau ar eu taith i Ffrainc a glanio ym Mharis. Treuliodd y grŵp eu prynhawn yn gweld golygfeydd Paris gyda’i arhosiad cyntaf yn ymweld gyda’r Tŵr Eiffel. Teithiodd y grŵp i lawr I Montlucon y noson honno, roedd rhai aelodau digon dewr i flasu danteithfwyd o Ffrainc sef malwod.



Dechreuodd y diwrnod ddydd Iau gyda thaith i lawr i Clermont-Ferrand i gael mynychu’r Sommet de l’élevage. Mae’r Sommet de l’élevage yn cael ei adnabod fel Sioe Amaethyddol Gynaliadwy fwyaf y byd, er nad oedd gwartheg yn y sioe eleni oherwydd afiechyd croen, ond cafodd yr aelodau amser boddhaol yn mynd o amgylch y stondinau a threilio amser yn y lolfa ryngwladol.



Buan ddaeth bore Dydd Gwener a gwelwyd y criw yn teithio i’r gorllewin tuag at Limoges a chartref y gwartheg Limousin. Canolfan Interlim yn Lanaud oedd y man cyntaf i’r grŵp fynychu, canolfan sydd wedi bod yn rhedeg ers 1984 yn ceisio gwella geneteg a safon y brid Limousin. Dyma ymweliad diddorol ac addysgiadol wrth ddysgu am beth mae’r canolfan yn edrych amdano yn y teirw ifanc a sut maent yn dewis pa deirw sydd yn aros. Cafwyd bwyd bendigedig yma hefyd wedi ei greu gan ddefnyddio cig o’r safle.




Ymweld â theulu o Gymru oedd cyntaf ar deithlen Dydd Sadwrn, a dyna chi beth oedd croeso twym galon Gymreig gan Dafydd Griffiths a’r teulu sydd bellach wedi ymgartrefi allan yn ardal Limgoes. Cafodd y grŵp daith o amgylch y fferm yn ymweld â’r siediau a’r systemau gwahanol oedd yno a chrwydro’r caeau i weld y gwartheg. Uchafbwynt yr ymweliad yma i nifer oedd y barbeciw a oedd y teulu a chymdogion wedi paratoi i’r criw, gwledd i’r llygaid ac i’r bol! Ni allwn ddiolch digon i’r teulu Griffiths am y croeso a gafon yno, dwi’n siŵr y bydd ambell aelod yn teithio yn ôl allan am ymweliad arall yn fuan. Aeth ail ymweliad y diwrnod a’r criw i fferm laeth a oedd yn cadw buchod cynhenid normande ag yn ffermio ar 217 o erwau.




Daeth y daith i ben yn Bordeaux gyda thaith gwin ar gwch ddydd Sul cyn i’r criw cael ychydig oriau i grwydro o amgylch y ddinas a phacio ei bagiau i fynd draw i’r maes awyr a dechrau eu taith am adref!
Ond nid dyma oedd diwedd y daith i nifer gyda’r hediad allan i Firmingham yn cael ei ganslo tra ein bod yn y maes awyr, ar grŵp yn gorfod cael ei rhannu lan er mwyn cyrraedd adre yn ddiogel gydag un grŵp yn gorfod hedfan i Geneva cyn dod yn ôl i Firmingham.
Trip a hanner i Ffrainc bydd yn aros yn y cof am amser!
Hoffai CFfI Cymru ddiolch i Ymddiriedolaeth Elusennol NFU Mutual am eu cefnogaeth hael i’n Taith Astudio. Mae eu cyfraniad wedi ein galluogi i gynnig cyfleoedd a phrofiadau gwerthfawr i’n haelodau.