Blog yr Aelodau

Taith Astudio CFfI Cymru i Iwerddon

Rhwng y 13eg a’r 16eg o Hydref, fe deithiodd 45 o aelodau i Ogledd Iwerddon ar gyfer Taith Astudio flynyddol pwyllgor Materion Gwledig CFfI Cymru. Fe wnaethon ni ddal i fyny gydag Angharad Thomas ein Cadeirydd Materion Gwledig i glywed popeth am y daith.

“Wedi hwylio o Fôn i Ddilyn a theithio i Ogledd Iwerddon yr ymweliad cyntaf oedd Magheraknock Herefords sef buches llywydd clybiau Herefords Gogledd Iwerddon.

Dechreuwyd yr ail ddiwrnod gan ymweld â fferm Rowandale. Yma gwelwyd fferm godro sydd wedi arallgyfeirio gan bastareiddio a photeli llaeth a chynhyrchu menyn cyn ei gwerthu i gartrefi o fewn dalgylch o 150 milltir. Esbonnir am y broses ar reoliadau ynglŷn ag ymestyn oes silff ei llaeth a menyn. System robot oedd ganddynt ar y fferm, lle gedwir y gwartheg mewn tair sied gyda dau robot ym mhob adeilad. Esbonnir nad oeddent yn defnyddio gwrthfiotigau wrth sychu’r gwartheg.

Teithiwyd i Corries Livestock erbyn y prynhawn. Fferm gwartheg bîff oedd hwn a oedd gyda siop ar y fferm. Esbonnir ei system ac mae’n wir i ddweud fe gafodd llawer ohonom ein synnu â maint y siediau ar system trin a oedd yn galluogi i nifer fach o weithwyr symud y gwartheg. Fel rhan o’r busnes, mae gan y fferm arwerthiant blynyddol ym marchnad Ballymena.

Fe dreuliwyd y noson yn gwylio gêm Cymru yn erbyn yr Ariannin a gêm Iwerddon yn erbyn y Crysau Duon yng nghwmni Ffermwyr Ifanc o Ulster.

Ar fore digon gaeafol fe deithiom i ardal Coleraine ar gyfer ymweliadau. Y cyntaf i Millars livestock sydd â buches o wartheg godro a diadell o ddefaid texel. Gwelwyd stoc o safon yma. 

Yn y prynhawn ymweliad â fferm Drumcroon Hous. Fferm bîff, defaid ac cnydau âr oedd hon. Esboniwyd y broses oedd Mark a’i deulu wedi’i fabwysiadu o brynu bustych yn unig ar lein cyn ei magu at bwysau lladd. 

Bore dydd Llun cyn dychwelyd i’r fferi, ymwelwyd â ffactori Guiness yn Dublin. 

Ar ran pwyllgor Materion Gwledig carwn ddiolch i’r holl ffermwyr am y croeso ac i Ffermwyr Ifanc Ulster am eu cyfeillgarwch.”

Cynhelir Cynhadledd Amaeth CFfI Cymru ar 13 a 14 Ionawr 2024 yn Sir Drefaldwyn.