Newyddion CFfI Cymru
Sgript Pontsian yn plesio yn y Gymraeg a chast Llys-y-frân yn serennu yn y Saesneg!
Trefnwyd penwythnos llwyddiannus gan y Ffermwyr Ifanc ar eu hymweliad diweddar a Galeri Caernarfon gydag aelodau o Gymru gyfan yn cystadlu mewn cystadleuaeth Drama Cymraeg a Saesneg.
Bu chwe chlwb yn agor y cystadlu ar y dydd Sadwrn gydag aelodau yn cymryd y cyfle wedi brwydro ei ffordd i’r ffeinal yn y rowndiau sirol. Daeth saith sir i ddilyn a’i chynyrchiadau i’r ffeinal Saesneg gyda nifer dda o aelodau yn cael y cyfle i ddatblygu eu sgiliau perfformio, cynhyrchu, cyfarwyddo, sgriptio a chymorth cefn llwyfan.
Roedd beirniad yr adran Gymraeg, Ffion Dafis, wedi ei phlesio â’r safon gan nodi yn ei beirniadaeth ei bod wedi cael ei synnu gan safon y dydd, talent yr aelodau ac wedi mwynhau’r dydd yn arw.
Aeth gam ymhellach a chanmol aelodau oedd hefyd yn sgriptio eu dramâu ar ben popeth arall gan dalu sylw arbennig i sgript CFfI Pontsian am ei sgript wych.
Yn ystod y Seremoni Gwobrwyo cafodd y wobr am actor gorau ei roi i Endaf Griffiths, Pontsian, Ceredigion. Prif Actores i Gwenno Griffiths, Uwchaled, Clwyd a chyflwynwyd tarian Paul Ekington am y perfformiad technegol gorau i CFfI Cwmtirmynach, Meirionnydd.
Daeth y noson i’w therfyn gyda’r canlyniadau terfynol:
=5ed CFfI Llangadog, Sir Gâr
=5ed CFfI Uwchaled, Clwyd
4ydd CFfI Dyffryn Tanat, Maldwyn
3ydd CFfI Cwmtirmynach, Meirionnydd
2il CFfI Rhos y Bol, Ynys Môn
1af CFfI Pontsian, Ceredigion
Ar y dydd Sul daeth diwrnod o ddathlu Dydd Gŵyl Ddewi i’w therfyn gyda chanmoliaeth uchel oddi wrth y beirniad Saesneg o GODA Mr Joe Riley. Roedd yn barod iawn i ganmol trefn y digwyddiad gan fudiad y Ffermwyr Ifanc. Fe’i cymharodd i wleddoedd eraill yr oedd wedi beirniadu ynddynt dros y blynyddoedd a chanmol safon uchel a’r sylw at y manylion lleiaf yn arwain at y digwyddiad ac yn ystod y digwyddiad. Canmolodd safon rhaglen y dydd a’r wybodaeth rhwng y cloriau hyd at safon y cwmnïoedd a oedd yn perfformio ar y llwyfan.
Yn ystod y Seremoni Gwobrwyo cafodd gwobr yr actor gorau ei gyflwyno i Raiff Devlin o CFfI Pontfaen, Brycheiniog a’r actores orau ei wobrwyo i Elen Hunt, Llysyfran, Sir Benfro. Cyflwynwyd gwobr Paul Elkington am y cynhyrchiad technegol gorau i CFfI Brynbuga, Gwent.
Cyhoeddwyd y safleoedd terfynol fel y ganlyn :-
7fed CFfI Dyffryn Tanat, Maldwyn
6ed CFfI Llanymddyfri, Sir Gâr
5ed CFfI Rhayader, Maesyfed
4ydd CFfI Brynbuga, Gwent
3ydd CFfI Gwyr, Morgannwg
2il CFfI Pontfaen, Brycheiniog
1af CFfI Llys-y-frân, Sir Benfro