Blog yr Aelodau
Seminar y Gwanwyn 2023
Cawsom sgwrs gyda Lucy Price o CFfI Maesyfed i glywed popeth am ei phrofiad ar Seminar y Gwanwyn yn Budapest gyda ‘Rural Youth Europe’!
Ym mis Ebrill 2023 teithiais i Budapest i gymryd rhan mewn sesiwn astudio a drefnwyd gan Rural Youth Europe. Thema’r sesiwn oedd ‘Parch a Gwydnwch – Cryfhau Cymunedau yn Wyneb Adfyd’ a thrwy gydol yr wythnos buom yn cymryd rhan mewn gweithgareddau oedd â’r nod o’n hannog i feddwl am adeiladu strwythurau ieuenctid gwydn, i helpu i wella bywydau pobl ifanc, gyda ffocws ar iechyd meddwl.
Roedd y gweithdai’n cynnwys llawer o weithgareddau adeiladu tîm i’n helpu i ddod i adnabod ein gilydd, ond hefyd rhannu ein dyheadau ar gyfer ein sefydliadau ieuenctid gartref. Rhyngom roedden ni’n cynrychioli 17 o wledydd gwahanol, ac roedd hi mor ddiddorol clywed am ein profiadau cyffredin. Er ein bod o wledydd a chefndiroedd cwbl wahanol, roedd gennym ni gymaint yn gyffredin ac roedd pawb yn wynebu heriau tebyg. Roedd rhai o fy hoff drafodaethau yn ymwneud â’r gwahanol fathau o sefydliadau a’r hyn y maent yn ei gynnig i bobl ifanc, a sgyrsiau am iechyd meddwl.
Un o uchafbwyntiau’r daith oedd y noson ryngwladol a gynhaliwyd ar y noson gyntaf. Gofynnwyd i bob un ohonom ddod ag eitemau o’n mamwlad a rhannu cipolwg ar ein diwylliant a’n hanes. Fe ges i ac Elin daeniad Cymreig hen ffasiwn – o bice ar y maen, bara brith, caws Eryri a menyn Cymreig a oedd yn dipyn o bleser!
Cefais amser anhygoel ar y daith hon a byddwn yn argymell yn fawr unrhyw un sy’n ystyried gwneud y rhaglen deithio i roi cynnig arni – rydych chi’n cael cwrdd â chymaint o bobl newydd a darganfod rhan newydd o’r byd. Mae’n llawer mwy na gwyliau, a bydd y profiad yn aros gyda chi am oes!