Newyddion

MATERION GWLEDIG YNG NGHALON Y MUDIAD

Mae CFfI Cymru yn cadw Materion Gwledig wrth galon y mudiad, ac roeddem yn gyffrous ym mis Medi i groesawu Lee Pritchard i’n tîm. Yna cafodd y teithiau astudio eu hailgyflwyno, a chyhoeddwyd cyrchfan 2022 fel Cumbria gan gynnwys ymweliadau â HJ Lea Oakes, Fferm Beckside a Ffatri Crystalyx i enwi dim ond rhai.

Parhaodd y gystadleuaeth Menter Moch eleni, a chyhoeddwyd y chwe enillydd yn Sioe Frenhinol Cymru 2022 ac maent fel a ganlyn; Rebecca John (C.Ff.I Sir Benfro), Carys Jones (C.Ff.I Sir Gâr), Rhys Morgan (C.Ff.I Morgannwg), Leah Davies (C.Ff.I Clwyd), Frances Thomas (C.Ff.I Brycheiniog) ac Alis Davies (C.Ff.I. Clwyd). Mae’r enillwyr hyn wedi cael pum moch ifanc i’w magu a bydd y pencampwr yn cael ei gyhoeddi yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru fis nesaf. Hoffem ddiolch i Menter Moch Cymru am eu cefnogaeth barhaus wrth ganiatáu i ni gynnal y gystadleuaeth hon.

Bydd CFfI Cymru hefyd yn mynychu digwyddiad Biff a Defaid Wynnstay eleni ar yr 2il o Dachwedd. Byddem wrth ein bodd pe baech yn dod i’n gweld i ddysgu mwy am yr hyn sy’n digwydd dros yr wythnosau nesaf, gan gynnwys ein hail-lansiad cyffrous o gystadleuaeth yn y Ffair Aeaf lle gall un aelod lwcus ennill defnydd o Feic Cwad am flwyddyn! Yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru mae CFfI Cymru hefyd yn cynnig cyfle unigryw i gystadlu o fewn y cystadlaethau ‘Biff Ifanc’ a ‘Prif Gynhyrchydd Wyn’, sy’n agored i aelodau dros 14 oed o ffederasiynau Cymru, Swydd Henffordd, Swydd Amwythig a Swydd Gaer.

Mae CFfI Cymru wedi bod yn ddigon ffodus i gynnal partneriaeth gref gyda Dunbia a Sainsbury’s trwy ein Menter Cig Oen. Rhoddir cyfle i aelodau gyflenwi Cig Oen Cymru i siopau Sainsbury’s Cymru am bris premiwm drwy gydol y flwyddyn. Bwriad y cynllun yw gweithio gyda phrosesydd a manwerthwr blaengar i ddenu aelodau CFfI Cymru i ddod yn gyflenwyr cig oen ac i gadw Ffermwyr Ifanc ar flaen y gad yn y diwydiant. Buom yn ddigon ffodus i allu gweini cig oen o’r cynllun hwn yng nghinio’r Llywydd yn Sioe Frenhinol Cymru i cychwyn y flwyddyn gyffrous sydd o’n blaenau, wrth i’n Cynllun Cig Oen ddathlu 15 mlynedd ers ei lansio!

Rydym nawr yn dechrau ar ein blwyddyn CFfI newydd gyda llawer o gyfleoedd ar y gorwel, gan gynnwys Eisteddfod Genedlaethol CFfI Cymru, lle bydd ein haelodau yn camu i’r llwyfan a bydd ein seremonïau Cadeirio a Choroni yn cael eu cynnal. Hoffem ddymuno pob lwc i holl aelodau CFfI Cymru am y flwyddyn i ddod ac annog unrhyw un sydd ddim yn aelod yn barod i ymuno!