Newyddion CFfI Cymru

Cyn-gadeirydd yn codi £3,103.92 yn ystod Her ‘Rhwyfwch ‘da Rhys’

Hoffai CFfI Cymru llongyfarch ein cyn-gadeirydd Rhys Richards ar Her y Cadeirydd llwyddiannus iawn. Ar ddydd Sadwrn 14th Medi 2024, cwblhaodd Rhys yr her o rwyfo o Gaergybi i Ddulyn ac yn ôl ar Fferi’r Stena Line a gymrodd bron i 7 awr.

Diolch i’r 45 o gefnogwyr a aeth draw i’w gefnogwyr a aeth draw i’w gefnogi. Diolch i Stena Line am eu cefnogaeth ac i Fôn Actif am noddi’r defnydd o’r peiriannau rhwyfo.

Cododd Rhys gyfanswm mawreddog o £3,103.92 sydd wedi’i rannu rhwng ei elusen ddewisol Prostate Cymru a CFfI Cymru.

Wrth i ni edrych ymlaen at 2025 bydd ein Cadeirydd presennol, Dewi Davies, yn ymgymryd â her newydd, a bydd y cyfan yn cael ei ddatgelu ar 1 Chwefror.