Diddordeb mewn rhoi i CFfI Cymru?

Os hoffech drafod y posibilrwydd o wneud cyfraniad i’r ffederasiwn, mae croeso i chi gysylltu â Claire Powell (yn gyfrinachol): accounts@yfc-wales.org.uk.

Sut bydd fy rhodd yn cael ei ddefnyddio?

Bydd unrhyw roddion y byddwn yn wirioneddol ddiolchgar amdanynt ac yn cael eu rhoi tuag at y canlynol

  • Cynnal ein digwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer Aelodau CFfI
  • I ddatblygu ein sefydliad
  • Llogi Lleoliad ac adnoddau eraill i wneud i’n Cystadlaethau, gweithgareddau a digwyddiadau ddigwydd
  • Cynnal a chadw ein hadeilad
  • Cynnig gweithdai a hyfforddiant i bobl ifanc, gwirfoddolwyr a staff.

Rhowch Yn Ôl I CFfI Cymru – Cofiwch ni yn eich ewyllys

Gallwch ein helpu i barhau i gyflawni ein nodau elusennol, diogelu’r sefydliad a sicrhau ei ddyfodol, drwy adael rhodd yn eich ewyllys i Glybiau Ffermwyr Ifanc Cymru.

Rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a adawyd i ni, waeth pa mor fawr neu fach. Mae pob etifeddiaeth a gawn yn helpu i gefnogi pobl ifanc rhwng 10-28 oed Iedled Cymru wledig.

Y cyfan sydd ei angen arnoch i adael anrheg yn eich ewyllys yw ein cyfeiriad a’n rhif elusen gofrestredig (1145230).

Dewiswch pa fath o anrheg rydech chi am ei adael:

  • Rhodd weddillol – Canran o’ch ystâd ar ol i’ch dyledion gael eu setlo ac ar ol i’ch teulu a’ch ffrindiau gael eu darparu ar eu cyfer.
  • Rhodd ariannol – Mae hwn yn swm penodol o arian.

Gan fod CFfI Cymru yn elusen gofrestedig bydd unrhyw rhodd a adawch yn cael eu eithrio rhag treth etifeddiant.

Os ydych yn bwriadu gadael rhodd i CFfI Cymru yn eich ewyllys, rydym yn argymell eich bod yn siarad a chyfreithiwr i sicrhau y caiff eich dymuniadau eu cyflawni fel y bwriadwch a bod yr holl ofynion cyfreithiol yn cael eu bodloni.

Os oes gennych ewyllys eisioes a’ch bod yn penderfynu gadael rhodd, efallai na fydd angen i chi wneud un newydd. Gellir datgan man newidiadau i’ch ewyllys mewn ‘codisil’, sef dogfen gyfreithiol ychwanegol a ddarllenir ar cyd a’ch ewyllys.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch gwaith ac amcanion elusennol CFfI Cymru, neu os hoffech drafod gadael rhodd i CFfI Cymru un eich ewyllys, dewch i gysylltiad a’r Prif Weithredwr ar 01982 553502 neu e-bostiwch prifweithredwr@yfc-wales.org.uk.