Enillydd 2023 – Morgan Tudur

Fferm Biff a Defaid oedd Llysun am 45 o flynyddoedd. Yn 2018 penderfynodd y teulu werthu’r stoc a phrynu lloi godro fewn yn ei lle. Ers 2020 mae Llysun wedi bod yn fferm odro, ac erbyn heddiw mae 450 o wartheg Jersey X Friesian i gyd yn cael ei lloia yn y gwanwyn, ac yn cynhyrchu 5,500 litr y flwyddyn. Mae’r gwartheg allan o fis Mawrth tan ganol mis Tachwedd ac yn pori ar system gylchdro. Mae Morgan wedi trio rhan fwyaf o systemau pori dros y blynyddoedd ond wedi setlo ar pori cylchdro gyda’r gwartheg godro, ‘strip grazing’ efo’r lloi ar y kale dros y gaeaf, a ‘block grazing’ gyda heffrod ar y mynydd. Mae Llysun yn fferm deuluol gyda Morgan, ei fam Catrin ai’ Nain a Thaid; Ann a Tom Tudor yn bartneriaid yn y busnes. Mae Morgan yn gweithio ar y fferm llawn amser gyda un aelod o staff llawn amser a dau hanner amser. Morgan sydd yn creu y penderfyniadau o ddydd i ddydd, ond mae popeth yn cael ei drafod gyda’r staff ar penderfyniadau mawr yn cael eu trafod gyda’r partneriaid.