Rhaglen Rhyngwladol

Mae dy daith yn dechrau gydag CFfI Cymru…ble’r ei di?

Mae Rhaglen Rhyngwladol CFfI Cymru yn rhoi cyfleoedd bythgofiadwy i’n aelodau deithio’r byd a dysgu am ddiwylliannau a bywyd mewn gwledydd eraill. Gallwch deithio fel unigolyn, fel pâr neu fel grŵp!

Dysgwch am ddiwylliannau, darganfyddwch brofiadau newydd, gwellwch eich hyder a gwnewch ffrindiau am oes!

Edrychwch ar ein Blog i glywed beth mae aelodau wedi dweud am eu profiadau teithio CFfI Cymru yn y gorffennol!