Blog yr Aelodau

Profiad Celyn yng Nghaerdydd fel aelod o Senedd Ieuenctid Cymru

Dros benwythnos gyntaf hanner tymor, fe ges i, Celyn Richards, Cadeirydd Fforwm Ieuenctid CFfI Cymru’r anrhydedd o fynychu trip preswyl Senedd ieuenctid Cymru. Fe wnes i gael fy ethol fel aelod o Senedd Ieuenctid Cymru trwy bartneriaeth mudiad CFfI Cymru, braint ac anrhydedd oedd hyn i mi, ac rwyf wir wedi mwynhau pob eiliad o fod yn rhan o drydydd tymor Senedd Ieuenctid Cymru, ac yn edrych ymlaen at beth mwy sydd i ddod!

Ar ddydd Gwener, yr 21ain o Chwefror, teithiom i Gaerdydd a dechrau ein taith breswyl. Ar ôl gadael ein bagiau yng ngwersyll yr Urdd, cerddon ni draw i’r Senedd, lle cafwyd cyflwyniadau, gan gynnwys cyflwyniadau gan gyn-aelodau. Ar ôl yr holl gyflwyniadau, cawsom daith o amgylch y Siambr, a darganfod ble yn union y byddwn yn eistedd ddydd Sadwrn ar gyfer ein hareithiau, lle cefais y pleser o eistedd yn sedd Vaughan Gething. Ar ôl dysgu lle’r oedd pawb yn eistedd, a hefyd rhai ffeithiau am y siambr, daeth yn amser dychwelyd yn ôl i’r gwersyll am swper a gweithgareddau torri’r iâ.

Roedd y tasgau’n cynnwys siarad mewn grwpiau am beth yn union yr oeddem am ei gyflawni o’r penwythnos preswyl, a chawsom gyfle hefyd i ddod i adnabod ein gilydd yn well. Ar ôl hyn, aethom yn ôl i’r ystafelloedd yr oedden yn aros ynddynt. Syndod braf oedd cael rhannu ystafell gydag aelod arall o Fforwm Ieuenctid Cymru, Neli Rhys, a etholwyd yn aelod o etholaeth Meirion Dwyfor.

Ar fore Sadwrn, fe ddeffrom ni i gyd yn gynnar i baratoi ar gyfer y diwrnod mawr : ein hareithiau. Aethon ni draw i’r Senedd, ac erbyn 10yb, roedden ni gyd yn barod yn ein seddi, yn barod am ddiwrnod llawn o wrando. Rhannwyd yr areithiau mewn i dair adran, gydag areithiau pawb yn dod o dan bynciau penodol. Roedd araith Neli Rhys yn disgyn o dan y cwricwlwm, a fy un i o dan amaethyddiaeth. Ar ôl i bawb gwblhau ei hareithiau, fe bleidleisiwyd ar y tri mater o’n dewis. Y tri ddaeth i’r brig oedd:

● Costau byw a thlodi

● Trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol

● Trosedd a diogelwch

Ar ôl diwrnod hir o areithio, derbyniwyd ‘Media training’ gan ddau newyddiadurwr o BBC Cymru, a dysgu beth yn union i wneud yn ystod cyfweliadau, a chael y cyfle i ofyn unrhyw gwestiwn. I orffen diwrnod hir, cafwyd y cyfle i ymlacio, ac wedyn mynd i fowlio, am ffordd wych i orffen penwythnos anhygoel!

Yn sicr, roedd y daith breswyl yma gwerth chweil ac yn brofiad hollol amazing! Rwyf wedi creu nifer fawr o ffrindiau newydd, ac yn edrych ymlaen yn fawr at fy nyfodol fel aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, a methu aros nes y daith nesaf!

Dyma glipiau o fy araith i a Neli i chi wylio! Dyma araith Neli – Senedd.tv – Cyfarfod Llawn Senedd Ieuenctid Cymru

Dyma fy araith i – Senedd.tv – Cyfarfod Llawn Senedd Ieuenctid Cymru