Mae Ffederasiwn CFfI Cymru yn sefydliad bywiog sy’n grymuso pobl ifanc yn frwd i gymryd cyfrifoldeb a chwarae rhan egnïol yn eu cymunedau, tra’n annog datblygiad personol trwy ystod eang o raglenni y mae gan yr aelodau gyfrifoldeb i’w dylunio a’u rheoli. Mae’r mudiad yn cynnwys dros 5,000 o aelodau rhwng 10 a 28 mlynedd yn ogystal â miloedd lawer o gefnogwyr, gwirfoddolwyr, rhieni a ffrindiau. Amcangyfrifir bod dros 210,000 o Gymry wedi bod yn aelodau neu’n gyfranogwyr dros 80 mlynedd o hanes y sefydliad. Er bod yr enw yn awgrymu aelodaeth o ffermwyr, mae’r CFfI yn cynrychioli pobl ifanc o bob cefndir yng nghefn gwlad Cymru.

Diddordeb mewn bod yn Noddwr?

Os hoffech drafod y posibilrwydd o ddod yn noddwr, mae croeso i chi gysylltu â Claire Powell (yn gyfrinachol): accounts@yfc-wales.org.uk 

Ffactorau Allweddol

Hoffem gydnabod yn ddiolchgar ein noddwyr presennol: