Ynglŷn â’r cynllun
Partneriaeth rhwng Dunbia (Llanybydder), Sainsbury’s a CFfI Cymru yw Menter Ŵyn CFfI Cymru. Mae’r bartneriaeth yn rhoi cyfle i aelodau CFfI Cymru i gyflenwi eu cig oen Cymreig i siopau Cymreig Sainsbury am bris premiwm trwy gydol y flwyddyn.
Amcan y cynllun yw gweithio gyda phrosesydd ac adwerthwr blaengar i ddenu aelodau CFfI Cymru sy’n cynhyrchu cig oen i fod yn gyflenwyr ac i gadw Ffermwyr Ifanc ar flaen y gad yn y diwydiant. Yn y pen draw amcan y fenter yw creu cadwyn gyflenwi gynaliadwy i helpu cefnogi dyfodol cefn gwlad Cymru.
Pam ddylech chi gymryd rhan?
Mae’r cynllun yn creu llif incwm ar gyfer y mudiad, gan fod Sainsbury’s yn cyfrannu 40c yr oen (ar ben y pris yr ydych yn ei dderbyn) yn uniongyrchol i CFfI Cymru. Bydd 10c o hynny yn mynd yn uniongyrchol at eich Ffederasiwn Sirol.