Newyddion

MENTER MOCH CYMRU & PHARTNERIAETH CFfI CYMRU YN CYFLWYNO ENTREPRENEURIAID NEWYDD I’R DIWYDIANT MOCH

Yn diweddar gwesteiodd  Ffair Aeaf  Sioe Frenhinol Cymru bartneriaeth llwyddianus arall eto rhwng Menter Moch Cymru a CFfI Cymru, yn cyflwyno pobl ifanc i’r diwydiant moch.

Eleni, buodd chwech aelod CFfI yn lwcus i gael eu dewis allan o  lawer iawn o geisiadau, gyda’r enillwyr yn derbyn pump o foch bach i’w magu, ac yn cael eu cynnal drwy hyfforddiant arbenig a’u cynghori drwy brosiect Datblygiad Gwledig wedi ei ariannu gan Llywodraeth Cymru.   

Mae Menter Moch Cymru yn cael ei ariannu gan Gymdeithasau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 – 2020, sydd yn cael ei ariannu gan Gronfa Amaeth Ewropeaidd i Ddatblygiad Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae hyfforddiant i bob un o’r ffermwyr ifanc yn cynnwys dau ddiwrnod hyfforddiant ar fferm, gweithdy marchnata, sesiwn gyda technegwr bwyd sydd yn cynnwys deddfwriaeth a gofynion o werthu cig, sut i baratoi moch i’w dangos, maethiad moch a Thystysgrif Lles Anifeiliaid yn ystod Trafnidiaeth.  Hefyd cafodd pob person ifanc eu darparu gyda chefnogaeth parhaol cynghorwr drwy raglen Menter Moch Cymru.

Y chwech terfynol eleni oedd Rhiannon Davies, Ceredigion; Betsan Williams, Sir Benfro; Elin Williams, Maldwyn; Chris Ludgate a Elin Childs, Sir Gâr a Guto Huws, Meirionnydd. Y sialens olaf o’r brosiect eleni i’r cystadleuwyr oedd dosbarth dangos fyw yn Ffair Aeaf  Sioe Frenhinol Cymru a gafodd ei chynnal yn ddiweddar yn Llanelwedd.

Dywedodd Elin Williams, enillydd terfynol 2019, “Mae cystadleuaeth Menter Moch Cymru wedi bod yn gymaint o brofiad gwerthfawr i mi.  Mae’n wir i ddweud onibai am y cyfle yma, ni fyddwn wedi dechrau cadw moch.  Cynigodd y cyfle hyfforddiant berthnasol i fagu moch ifanc a hefyd i baratoi’r anifeiliaid  i’w dangos.  Rhoddodd y cynghorwyr gyngor arbenig yn nhermau bwydo, iechyd a lles, prosesu a marchnata’r cynyrch terfynol.  ‘Rwy’n gyffrous am y dyfodol ac yn  edrych ymlaen am ddatblygu cynnyrch terfynol a brandio.  Mae’r rhaglen wedi rhoi hyder i mi i gadw moch yn y dyfodol ac wedi rhoi i mi ddiddordeb awyddus mewn datblygu’r diwidiant porc yng Nghymru.”

Rhoddodd Katie Davies, Cadeirydd CFfI Cymru, grynodeb o’r prosiect gan nodi: “Mae CFfI Cymru yn ddiolchgar dros ben i Fenter Moch Cymru am roi cyfle gwych i’r aelodau unwaith eto i ddysgu sgiliau mor werthfawr.  Sgiliau a all ddim ond helpu’r bobl ifanc i ddatblygu eu menter eu hunain ond hefyd i gefnogi’r diwydiant moch yma yng Nghymru.”

Dywedodd Melanie Cargill, Rheolwr Menter Moch Cymru, “’Roedd y dosbarth yn Ffair Aeaf y CAFC yn arddangosfa fendigedig o waith caled y chwech aelod CFfI i gyd.  ‘Rydym mor falch o gael y cyfle i ymuno a CFfI Cymru a CAFC i ddod a’r dosbarth moch unigryw yma i’r digwyddiad.”

Mae Menter Moch Cymru a Menter Pesgi Moch CFfI Cymru wedi bod yn llwyddiant mawr, yn darparu cyflwyniad unigryw i sector y ffermwyr ifanc ac yn portreadu cadw moch yng Nghymru.