Newyddion

MENTER MOCH CYMRU A CFFI CYMRU YN CYHOEDDI ENNILLWYR!

Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod yn cydweithio eleni eto o ganlyniad i lwyddiant y wobr yn 2017 a 2019. Cyfle unigryw ar gyfer Ffermwyr Ifanc Cymru.

Mewn ymgais i annog y genhedlaeth nesaf o ffermwyr i feddwl am y farchnad foch fel opsiwn arallgyfeirio hyfyw, mae chwe aelod CFfI Cymru wedi cael eu gwobrwyo â 5 mochyn fel cam cyntaf i’r diwydiant moch.

Mae’r fenter  mewn partneriaeth rhwng CFfI Cymru a Menter Moch Cymru yn cael eu hariannu gan Gronfa Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen 2014-20 sy’n cael ei ariannu gan y Gronfa Amaethyddiaeth Ewropeaidd a’r Llywodraeth Cymraeg.

Yn Sioe Frenhinol Rithwir cyhoeddwyd yr enillwyr – Angharad Thomas CFfI Dyffryn Tywi, Emily Lloyd CFfI Llangwyrfon, Ethan Williams CFfI Llantrisant, Katie Hughson  CFfI Howey, Teleri Vaughan CFfI Eglwyswrw a Teleri Evans CFfI Pontsian.

Nododd Non Williams, Cadeirydd Materion Gwledig CFfI Cymru “Diolch i Menter Moch Cymru am gael cydweithio ar ein cystadleuaeth pesgi moch unwaith yn rhagor eleni. Cawsom ein plesio’n fawr gan nifer a safon y ceisiadau, gan lwyddo i ddarparu’r fenter er gwaethaf cyfyngiadau o ganlyniad i Covid-19. Llongyfarchiadau mawr i’r ymgeiswyr llwyddiannus a phob hwyl iddynt gyda’r fenter. Edrychwn ymlaen i ddilyn eu datblygiadau, gan fanteisio ar gefnogaeth ar ffurf mentora a hyfforddiant fel rhan o’r fenter.”

Wrth glywed am ei lwyddiant dywedodd Ethan Williams “Rwyf wrth fy modd o fod yn un o’r enillwyr cystadleuaeth pesgi moch Menter Moch Cymru a CFfI Cymru a dwi’n gyffrous i fod y tro cyntaf i fagu moch ar y fferm. Mae hwn yn gyfle anhygoel i fod yn rhan o”. Dywedodd Teleri Evans “Rwy’n hapus iawn i gael fy newis fel rhan o’r fenter hon, rwy’n edrych ymlaen at fagu fy 5 porchell ar fy nhyddyn”.

Lansiwyd y gystadleuaeth ar 27 Ebrill 2020 i ddod o hyd i 6 ceidwad moch newydd brwdfrydig. Roedd y broses ymgeisio yn cynnwys cais ysgrifenedig ac yna ymweliad rhithwir â fferm ac asesiad. Roedd y beirniaid wedi’u plesio gan safon y ceisiadau a chafwyd dipyn o her i ddewis y chwech olaf.

Mae’r wobr a ddarperir gan Menter Moch Cymru yn cynwys rhaglen hyfforddi bwrpasol, gan ddechrau gyda’r sesiwn gyntaf ar hwsmonaeth moch, deddfwriaeth a bwyd anifeiliaid / maeth, ac yna sesiynau hyfforddi ychwanegol trwy gydol y flwyddyn.

Bydd Menter Moch Cymru hefyd yn helpu’r enillwyr i farchnata porc ac yn cefnogi a hyfforddi i ddatblygu’r sgiliau a’r hyfforddiant sydd yn angenrheidiol i’r fenter newydd hon. Bydd y sgiliau caiff yr aelodau o ganlyniad i’r gystadleuaeth yn werthfawr ac yn ddefnyddiol i nifer o fentrau ar y fferm.

“Mae Menter Moch Cymru yn falch o gydweithio gyda CFfI Cymru eto ar y cyfle unigryw yma” meddai Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect, Menter Moch Cymru.

“Mae’n galondid gweld bod brwdfrydedd a diddordeb yn y sector moch yma yng Nghymru, yn enwedig yn ystod cyfnod cythryblus i’r diwydiant amaeth. Mae’r fenter wedi bod yn llwyddiant mawr yn y gorffennol, yn ganlyniad mewn ffermydd yn arallgyfeirio a busnesau newydd yn cael eu dechrau. Eleni rydym wedi codi’r nifer o enillwyr o bedwar i chwech, i alluogi mwy o gyfle i gymryd rhan. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda chefnogi’r enillwyr gyda’r fenter newydd. “

Bydd y gystadleuaeth yn gorffen ar ddiwedd y flwyddyn yn Ffair Aeaf CAFC gyda dosbarth moch ar gyfer ein 6 yn y rownd derfynol, yn amodol ar y sioe yn mynd yn ei blaen.