Newyddion

MEITHRIN Y SGIL O SIARAD CYHOEDDUS

Mae Canolfan CFfI Cymru yn paratoi i groesawu aelodau o bob cwr o Gymru i Faes y Sioe yn Llanelwedd ar gyfer cystadlu mewn Gŵyl Siarad Cyhoeddus ar Ddydd Sul 22ain o Fawrth yn dechrau am 9 y bore ac yn parhau drwy gydol y dydd.

Bydd cyfle gan aelodau gystadlu mewn ystod eang o ffyrdd yn y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn gloywi eu sgiliau darllen, mynegi barn, dadlau a thrafod pynciau llosg. Ac yn ôl yr arfer bydd y canlyniadau yn glos a’r dadlau yn ffyrnig ymhlith yr aelodau.

Yn ogystal mi fydd yr aelodau yn cael cyfle i chwythu stem gyda’r cystadlaethau dawnsio gan gynnwys cystadleuaeth codi hwyl a dawnsio masnachol ac mae cyfle euraidd i ymarfer eich techneg cyfweliad yn y gystadleuaeth ymgeisio am swydd.

Mae beirniaid o bob cwr o Gymru wedi ymrwymo at y dasg anodd ohollti blew i ddod i benderfyniad ynlgŷn a’r goreuon ac mi fydd dipyn o grafu pen cynpenderfynu ar y buddugwyr ymhob adran.

Yn ôl Erica Swan, Cadeirydd Cystadlaethau CFfI Cymru; “Wedi wythnosau lu o ymarferion dwys, bydd  hi’n wych gweld ffrwyth llafur yr holl aelodau yn cyrraedd uchafbwynt yn ystod diwrnod brwd o gystadlu. Rydym yn hynod ddiolchgar i’r aelodau am eu hymrwymiad ac i’r nifer dda o gyn aelodau, ffrindiau a rhieni sydd wedi bod wrthi yn ddiwyd yn hyfforddi a pharatoi’r aelodau. Mae’r Diwrnod Siarad Cyhoeddus yn rhoi cyfleoedd amhrisiadwy i aelodau fagu hyder yn y sgil o siarad yn gyhoeddus, ac mae hynny yn agor drysau at gyfleoedd gwych iddynt. Felly rydym yn agor y drysau ac yn estyn croeso i bobl ymuno a  ni i weld sgil siarad cyhoeddus ar ei orau.”

Mi fydd cwmni arlwyo Blas Brycheiniog hefyd ar gael i gynnig paned, pryd blasus a chacen i gadw’r cefnogwyr a’r cystadleuwyr i fynd yn ystod y dydd felly ymunwch â ni.