Newyddion CFfI Cymru
Mared a Fflur yn cipio Cadair a Choron Eisteddfod Y Ffermwyr Ifanc 2025
Bu Theatr Hafren, y Drenewydd, yn llwyfan i un o uchafbwyntiau calendr diwylliannol ieuenctid Cymru, wrth i aelodau CFfI Cymru ymgynnull ar gyfer Seremoni Cadeirio a Choroni Eisteddfod CFfI Cymru 2025, a gwesteuwyd gan CFfI Maldwyn eleni.
Arweiniwyd y seremoni yr unig un o’i fath yng Nghymru sy’n dyfarnu’r gadair a’r goron mewn un seremoni gan Angharad Lewis, Pennaeth Adran Gymraeg Ysgol Bro Caereinion a chyn-aelod o Glwb CFfI Llanfair Caereinion.
Ymhlith y beirniaid eleni roedd y bardd a’r awdures adnabyddus Grug Muse, oedd yn beirniadu’r gystadleuaeth am y Gadair, a’r cyn-Archdderwydd Myrddin ap Dafydd, yn beirniadu’r Goron. Roedd nifer o swyddogion CFfI Cymru gan gynnwys y Cadeiryddes Angharad Thomas, y Prif Weithredwr Mared Rand Jones a’r Llywydd David Price ymhlith y gwesteion arbennig a gyfrannodd at lwyddiant y digwyddiad.



Noddwyd y Gadair a’r Goron eleni gan Coed y Bryn Nurseries a UAC Maldwyn. Cynhyrchwyd y gadair hardd gan Paul Philips, cyn-aelod o CFfI Aberriw, ac mae’r Goron wedi’i dylunio gan David Dart a Robi Wood o CFfI Cegidfa.




Heriodd y cystadlaethau eleni aelodau i gyfansoddi cerdd gyda dewisiad o enw lle yng Nghymru ar gyfer y Gadair, a darn o ryddiaith ar y thema “Cysylltiadau” ar gyfer y Goron.
Ar ôl canu’r corn gwlad gan Gwenlli Pennant Jones yn unol â thraddodiad y seremoni, datgelwyd enillwyr 2025 fel a ganlyn:
Enillydd y Gadair – Mared Fflur Jones, CFfI Rhosybol, Ffederasiwn Ynys Môn
Mae Mared sy’n gyfarwydd iawn â llwyddiant yn Eisteddfodau CFfI bellach yn ychwanegu Cadair 2025 at gyfres o fuddugoliaethau, gan gynnwys y Goron yn 2022 a’r Gadair yn 2024. Wedi ei magu yn Sir Drefaldwyn ac bellach yn byw yn Caernarfon, mae hi’n athrawes Gymraeg yn Ysgol Glan Clwyd. Diolchodd Mared i’w hyfforddwyr, cyfeillion a’i theulu am gefnogaeth barhaus.

Enillydd y Goron – Fflur Hâf James, CFfI Eglwyswrw, Ffederasiwn Sir Benfro
Daw Fflur o Lantwd ac mae hi yn ei thrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio Cymraeg a Ffrangeg. Mae ganddi hanes hir o gymryd rhan yn y mudiad, a thalent gerddorol amlwg. Canmolwyd ei gwaith am ei ddychymyg a’i ddyfnder. Diolchodd i’w hathrawon yn Ysgol y Preseli a’i darlithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd am eu harweiniad.

Cafwyd cyfarchion gan gynrychiolwyr o wahanol ffederasiynau, cyn i Sion Watkin o CFfI Vyrnwy Valley ganu can y cadeirio gyda chyfeiliant gan Alecs Peate Evans ar y delyn.

Dyma ganlyniadau’r ddwy brif gystadleuaeth:
Cerdd am y Gadair
1af – Mared Jones, Ynys Môn
2ail – Llywela Edwards, Clwyd
3ydd – Eluned Hughes, Eryri & Eiry Williams, Ceredigion
Rhyddiaith am y Goron
1af – Fflur James, Sir Benfro
2ail – Mali Evans, Ceredigion
3ydd – Carwyn Jones, Ynys Môn
Mae CFfI Cymru yn estyn llongyfarchiadau gwresog i’r ddwy enillydd ac i bob un a gystadlodd, gan ddathlu camp arall sy’n dangos grym creadigol ieuenctid Cymru. Gorffennwyd y seremoni gyda chanu’r anthem genedlaethol, Hen Wlad Fy Nhadau.
