Blog yr Aelodau

Mae’n amser Sioe!

Tra bod y moch yn cychwyn ar eu taith i faes y sioe, gadewch i ni ddarganfod sut mae rhai o cystadleuwyr Prif Gynhyrchydd Porc yn teimlo cyn y Ffair Aeaf!! Hoffem ddiolch i Ymddiriedolaeth Elusennol NFU Mutual am eu cefnogaeth gyda’r gystadleuaeth hon.


JAAP H – SIR BENFRO | PEMBROKESHIRE

“Mae’r Moch bellach wedi bod gen i ers 9 wythnos a 4 diwrnod, maent wedi bod yn tyfu’n eithriadol o gyflym ac yn pwyso 77kg ar gyfartaledd. Rwyf wedi pasio fy nghymhareb trosi porthiant targed sef 2.1kg ac mae bellach yn 1.66kg o borthiant fesul kg o gig. Maent yn tyfu ar 1.4kg y dydd ar gyfartaledd sydd ymhell dros fy nisgwyliadau. Rwyf wedi mwynhau pob munud o’u cael ac yn edrych ymlaen hyd yn oed yn fwy i’w harddangos yn y Ffair Aeaf.”


LISA G – SIR GÂR | CARMARTHENSHIRE

“Yn ddiweddar mae’r moch wedi bod yn ddrygionus wrth tipio eu dŵr ac yna’n rholio yn y dŵr a gwellt budr lle maent wedi bod yn domi.  Maent yn drewi ar y pryd ond erbyn y diwrnod wedyn mae’r cyfan yn lân. Mae’n wallgof i feddwl faint maen nhw wedi tyfu ers i mi eu cael. Mae’r moch wedi bod yn cael 2kgs o fwyd y dydd, wrth gael yn cael eu bwydo ddwywaith y dydd, mae’r moch bellach yn pwyso cyfartaledd o tua 75kgs. Un diwrnod es i mewn i’w glanhau allan ac roeddwn wedi llenwi’r whilber a dyma’r mochyn yma’n yn penderfynu ei fod am dipio’r whilber, fe ddigywddodd hyn tair gwaith, nid oedd hyn yn ddoniol ar y pryd ond nawr yn edrych yn ôl arno, mae’n eithaf doniol!  Ar y 10fed o Dachwedd aeth y saith ohonom sy’n cystadlu yn y gystadleuaeth i fyny i Treial Mawr, Llanon i roi cynnig ar ddangos y moch a’u golchi, a hefyd i gael ‘tips’ o beth i fynd gyda ni a beth i’w wisgo. Ers hynny rydw i wedi rhoi golchiad i’r moch a’u hyfforddi, mae hwn wedi bod yn brofiad eithaf diddorol. Mi fydd hwn yn antur a hanner i fyny yn y Ffair Aeaf. Dwi erioed wedi cadw moch o’r blaen sy’n golygu ei fod wedi bod yn brofiad gwahanol, ond nid wrth edrych yn ôl a chyfrifo y gost i fyny nid yw yn rhoi llawer o elw, er hyn does dim ym myd amaeth yn rhoi  llawer o elw mwyach gyda phris byw. Ond rhoi cynnig arni yw’r peth pwysicaf!”


GWENAN D – SIR BENFRO | PEMBROKESHIRE

“Dros y mis diwethaf mae’r moch wedi dod ymlaen yn dda. Mae’r hesbinychod wedi bod yn cynyddu 7kg yr wythnos ar gyfartaledd a’r baeddod yn cynyddu tua 8.5kg yr wythnos. Rwy’n tybio bod un o’r hesbinychod rhyw wythnos yn iau na’r lleill oherwydd ei bod wythnos ar ei hôl hi o ran pwysau i gymharu gyda’r lleill. Fe wnaethon ni eu symud i sied fwy ar ddechrau mis Tachwedd ac arweiniodd hyn at ostyngiad mewn cynnydd pwysau oherwydd eu bod yn dod i arfer â’u hamgylchedd newydd ond erbyn yr wythnos ganlynol roedd eu cynnydd pwysau wedi cynyddu yn ol i’r hyn oedd yn arferol. Rwyf wedi dechrau hyfforddi’r baeddod yn barod ar gyfer y Ffair Aeaf ac wedi bod i Treial Mawr, Llanon a drefnwyd gan y CffI, rwyf hefyd wedi trefnu fynd i fferm Troedyraur am gyngor a chymorth pellach gyda hyfforddiant. Rwyf wedi bod yn mynd â nhw allan dair gwaith yr wythnos i gadw i fyny â’r hyfforddiant ac wedi defnyddio bwrdd arddangos  a ddarparwyd gan y CFfI i wneud hynny. Dros yr wythnos nesaf byddaf yn casglu’r holl wybodaeth a lluniau rwyf wedi’u casglu trwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon a’i ddefnyddio i greu bwrdd gwybodaeth a fydd yn cael ei arddangos gyda fy moch yn y Ffair Aeaf. Rwyf wedi penderfynu parhau i fwydo’r ‘supa grower’ o Wynstay *ac wedi bod yn gwneud hyn yn ad-lib i sicrhau bod ganddynt fynediad at borthiant bob amser. Ar hyn o bryd mae’r moch yn pwyso ar gyfartaledd o 93kg yr un felly disgwylir iddynt fod tua 100kg erbyn y Ffair Aeaf.”


SIONED T – SIR BENFRO | PEMBROKESHIRE

“Mae’r Sioe yn agosau!

Dydd Sul y 10fed o Dachwedd teithiais i fyny i Dreial Mawr yn Llanon i gael cyngor arbenigol gan Andrew a’r prif stiward moch, Joyce. Mwynheais yn fawr wrth ddysgu sut i olchi a pharatoi’r moch ar gyfer y cylch arddangos a sut i’w harddangos gan ddefnyddio bwrdd a ffon. Braf oedd cyfarfod â chyd-gystadleuwyr i weld sut hwyl oedden nhw yn cael gyda’r moch a chael tips ganddyn nhw. Mae’r moch wedi cael eu bwydo gyda For Farmers ‘pig rearers’ o’r adeg pan gefais nhw hyd at 65kg. Maent wedi symud yn raddol ymlaen i For Farmers ‘Traditional Grader’ sydd wedi’i gynllunio i alluogu’r moch i gyrraedd cyfraddau twf uchel yn effeithiol. Ar gyfartaledd mae’r moch wedi ennill 6kg y pen/wythnos sy’n arferol ar gyfer moch yn yr oedran hwn yn ôl AHDB. Rwyf wedi bod yn gweithio ar y bwrdd gwybodaeth ar gyfer y sioe a fydd yn cael ei arddangos er mwyn i’r cyhoedd weld ffeithiau a ffigurau am y moch. Nos Iau y 21ain o Dachwedd cawsom gyfarfod gyda pherchennog busnes Hannah Bowie a Siwan o Cyswllt Ffermio i drafod opsiynau marchnata ar gyfer ein harallgyfeiriad. Dysgais ei bod yn bwysig iawn adnabod fy nghynulleidfa darged ac adnabod bylchau posibl yn y farchnad er mwyn bod yn gystadleuol. Rwyf wedi gwneud hyn trwy greu logo a hysbysebu fy musnes porc ar gyfryngau cymdeithasol yn ogystal ag ymchwilio i’r pwnc hwn. Gyda llawer o feddwl ac ystyriaeth rwyf wedi penderfynu cadw’r ddwy hesbinhwch ar gyfer bridio yn y dyfodol ac i barhau â stori ‘Moch y Llan’.