Newyddion

Mae sefydliadau ffermio Cymru wedi uno mewn llythyr ar y cyd at y Gweinidog yn amlinellu pryderon dros polisi y dyfodol

Mae undebau ffermio Cymru a CFfI Cymru wedi ysgrifennu i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i fynegi pryderon ynghylch cyfeiriad polisi amaethyddol Cymru yn y dyfodol, yn dilyn cyhoeddiad Papur Gwyn Amaethyddiaeth (Cymru).

Mewn arddangosiad o undod, mae NFU Cymru, Undeb Ffermwyr Cymru (UAC) a CFfI Cymru wedi galw ar y Gweinidog, Lesley Griffiths MS, i oedi ac ailystyried yr hyn y dylai polisi yn y dyfodol ei gyflawni i bobl Cymru. Mae’r tri sefydliad wedi codi pryderon nad oes llawer wedi newid dros dair proses ymgynghori ac erys diffyg uchelgais ar gyfer dyfodol ffermio yng Nghymru.

Dywed y llythyr ‘nid yw’n ymddangos bod y cyfeiriad teithio a gynigir yn adlewyrchu unigrywiaeth ffermio Cymru, wedi’i adeiladu o amgylch ffermydd teuluol yn cyflawni ar gyfer ein heconomi, ein tirwedd, ein hiaith a’n diwylliant. Yn lle, ac yn destun pryder mawr, mae’n edrych fel ein bod yn gweithredu polisi yn seiliedig ar ddiffiniad cul iawn o nwyddau cyhoeddus, meddwl polisi yn debyg iawn i’r hyn yr ydym wedi’i weld yn deillio o rywle arall, yn hytrach na pholisi wedi’i wneud yng Nghymru.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd NFU Cymru a UAC: “Mae ffermio yng Nghymru ar groesffordd sylweddol. Bydd y penderfyniadau a wneir gan lunwyr polisi yn ystod y misoedd nesaf yn siapio ac yn effeithio ar y sector am genedlaethau i ddod. Mae gadael yr UE wedi rhoi cyfle inni yng Nghymru lunio polisi uchelgeisiol sy’n galluogi Cymru i arwain y ffordd, gan sicrhau cyflenwad bwyd fforddiadwy diogel o ansawdd uchel i bawb yn y gymdeithas, darparu swyddi a chymunedau gwledig llewyrchus, i gyd wrth wella’r amgylchedd er budd pawb.

“Trwy gydol y broses hon rydym ni wedi cydnabod a chofleidio’r angen am newid gan gredu mai’r prif gyfle o Brexit oedd datblygu polisi amaethyddol yng Nghymru ar gyfer Cymru gyda’u phobl, y tir maen nhw’n ei ffermio, a’r bwyd maen nhw’n ei gynhyrchu yn ganolog iddo. Gyda’n gilydd rydym yn uchelgeisiol dros Gymru ac yn credu’n angerddol y gall ein sector chwarae rhan flaenllaw yn yr heriau mawr sy’n wynebu cymdeithas, yn enwedig newid hinsawdd, i gyd wrth fwydo poblogaeth sy’n tyfu’n barhaus gyda’r bwyd a’r ddiod o’r ansawdd uchaf a gynhyrchir gan y ffermwyr gorau yn y byd. Yn syml, ein huchelgais yw i Gymru gael ei chydnabod fel gwlad ragoriaeth sy’n arwain y byd ar gyfer ffermio sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd a chynhyrchu bwyd.

“Mae gennym gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i gael hyn yn iawn a galluogi Cymru wledig, ei phobl, cymunedau, iaith, tirwedd a’r amgylchedd i ffynnu ac felly o’r herwydd hyn rydym yn eich annog i ailystyried cyfeiriad a gweithio gyda ni i ddatblygu polisi  uchelgeisiol sy’n ein galluogi i gyrraedd ein potensial. “

Dywedodd Katie Davies, Cadeirydd CFfI Cymru: “Mae miloedd o bobl ifanc o bob rhan o Gymru yn ysu am greu gyrfa o fewn amaethyddiaeth yng Nghymru, gan gefnogi bwyd a ffermio. Mae’n hanfodol ein bod ni’n gweithio gyda’n gilydd i ddod o hyd i ffordd ymlaen sy’n uchelgeisiol ac yn creu cyfleoedd i’r genhedlaeth nesaf. “