Blog yr Aelodau

Mae enillydd Prime Porc y llynedd yn annog aelodau i roi cynnig ar y gystadleuaeth!

I unrhyw un sy’n anifeiliaid, ac eisiau cael profiad bythgofiadwy newydd, dyma’r gystadleuaeth i chi!

Fy enw i yw Janet, a llynedd cefais y cyfle i gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon.  Roedd yn brofiad hollol newydd i mi, ac roeddwn i wrth fy modd â phob eiliad ohono.

Efallai eich bod yn meddwl rhoi cynnig ar y gystadleuaeth yma, os ydych chi am dderbyn brofiadau newydd ac ymgymryd â her yn y byd amaethyddiaeth a busnes, ac o bosibl gallu agor drysau newydd yn y dyfodol, yna dechreuwch ysgrifennu eich ceisiadau!

Dros y cyfnod yn arwain lan at y gystadleuaeth fe wnes i ar aelodau eraill gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau. Ein antur gyntaf oedd ymweld â’r moch yn Home Farm, Hwlffordd. Lle fe wnaethon ni ddysgu’r holl wybodaeth angenrheidiol oedd angen arnom cyn derbyn y moch. Yna daeth y diwrnod  mawr pan cefais i gasglu’r moch o’r fferm, a oedd yn ddiwrnod cyffrous i mi. O’u llwytho i’r trelar i ddod adref gyda mi, roedd yr antur ar fin dechrau.

Yn ystod yr wythnosau nesaf roeddwn i’n deffro bob bore cyn yr ysgol, ac yn cael y pleser o’u gweld nhw i gyd wedi chwtsho gyda’i gilydd.

Roeddwn i’n pwyso’r moch bob wythnos i wneud yn siŵr fy mod i’n eu bwydo’n gywir, a’u bod yn pesgi bob wythnos.  Roeddwn hefyd yn ysgrifennu adroddiad misol ar y moch, trwy nodi beth oeddwn i’n eu bwydo, faint o fwyd, a sawl kg roeddent yn trymhau yn wythnosol. Roedd hwn yn ffordd dda o fy helpu i gadw ar y trywydd iawn i wneud yn siŵr bod y moch mor iach â phosibl.

Fel cystadleuwyr roedd gennym grwp er mwyn medru rhannu lluniau yn ystod ein taith. Roedd yn ddiddorol gweld sut roedd gan bawb system wahanol o gadw eu moch.

Cam nesaf y gystadleuaeth oedd cystadlu yn y Ffair Aeaf! Roedd y diwrnod hyfforddi yn profiad anhygoel, ar sut i baratoi ac arddangos fy moch yn y sioe fawr.

Treuliais yr wythnosau cyn y Ffair Aeaf yn eu cerdded o gwmpas y sied trwy ddefnyddio fy ffon ar bwrdd arddangos. Mae’n rhaid i mi fod yn onest, ar y dechrau doedd e ddim yn mynd yn dda iawn, roedden nhw’n sgrechian ac yn rhedeg i bob cyfeiriad!  Ond, ar ôl treulio bob nos ar ôl ysgol yn ymarfer, fe wellodd pethau a fe ddysgodd y moch sut i gerdded yn barod ar gyfer y cylch arddangos. 

Y noson cyn y sioe roedd angen i mi wneud yn siŵr bod fy nghôt wen a adnoddau arddangos yn barod ar gyfer y diwrnod o’m blaen. Yn gyntaf, golchais fy moch, mae’n rhaid i mi ddweud fy mod i’n lwcus i fod wedi gwisgo dillad glaw, neu byddwn i wedi bod yn wlyb diferu.  Ar ôl golchi daeth yr amser i’w llwytho i’r trelar, cymerodd hwn cryn dibyn o amser, ond fe gyrhaeddon ni yno yn y diwedd!

Nawr fel ffermwr ifanc nad oedd erioed wedi cerdded mochyn yn y cylch arddangos o’r blaen doedd gen i ddim syniad beth i’w ddisgwyl. Yn ffodus, roedd pawb yn yr un cwch, a dyna’r peth gorau am gystadlaethau Mudiad y Ffermwyr Ifanc mae rhoi cynnig arni a chael hwyl wrth ei wneud yn fwy pwysig nag ennill. Fe dderbyniodd pawb gwobr ond rwy’n credu bod y profiad roedden ni’n ei rannu yn bwysicach ac roedd yn rhoi mwy o falchder i mi wybod fy mod wedi cyflawni I gael y moch i faes y sioe ac eu harddangos!

Ar ôl y cystadlu yn y Ffair Aeaf fe cawsom y profiad o siarad â pobl busnes llwyddiannus. Fe wnaethon nhw drafod sut i brisio ein cynnyrch, marchnata, brandio a sut i ddefnyddio unrhyw gysylltiadau er ein bydd. Mae’r sgyrsiau hyn wedi ein helpu i ddeall beth oedd ei angen i fod yn bobl fusnes da a sut i wneud i’n menter lwyddo yn y dyfodol.

Cawsom hefyd y profiad o gael cwrs cigydd, wrth i ni ymweld â’r cigydd yn Aberteifi a chael ein dysgu sut i dorri’r gwahanol doriadau o gig!

Yn dilyn y profiad hwn, mae’n anhygoel i weld bod rhai o fy nghyd cystadleuwyr wedi penderfynu parhau i gadw moch, ac rwy’n gobeithio gwneud yr un peth yn y dyfodol agos!

Nid oes gwahaniaeth beth yw eich oedran yng nghystadlaethau y CFfI, mae eich angerdd a’r ymdrech rydych chi’n ei roi i mewn yn siwr o ddisgleirio. Mae hwn yn gyfle anhygoel i chi wneud ffrindiau newydd, tra’n ennill y profiad i allu rhoi eich CV. Peidiwch colli allan?

Gobeithio bod hwn wedi eich annog i gymryd y cyfle, a chymryd rhan yn y profiad bythgofiadwy hwn. Ysgrifennwch y cais heddiw, i wneud yn siŵr nad ydych chi’n difaru peidio â rhoi cynnig arni yn y dyfodol.

Mae ceisiadau ar gyfer cystadleuaeth Prime Pork 2025 yn cau ddydd Llun 23 Mehefin. I ysgrifennu cais, cliciwch yma > Prime Pork 2025