Newyddion CFfI Cymru
Dangosodd clybiau’r CFfI ledled Cymru eu cefnogaeth i #MisYGalon
CFfI Dyffryn Cothi
Cefnogodd CFfI Dyffryn Cothi Elusen Cadeirydd CFfI Cymru drwy gynnal noson hyfforddi CPR gyda St Johns. Hyfforddiant gwerthfawr iawn i’w aelodau. Diolch i St Johns am greu noson glwb bwysig!




CFfI Ynys Môn
Fe wnaeth aelodau Pwyllgor Gwaith Ynys Môn troi’n goch i gefnogi elusen Cadeirydd CFfI Cymru. Fe wnaeth pawb fwynhau paned a chacen bach hefyd a chyfrannu tuag at y British Heart Foundation!

CFfI Capel-Arthne
Ar 19 Chwefror, cefnogodd aelodau clwb CFfI Capel-Arthne elusen Cadeirydd CFfI Cymru trwy gymryd rhan yn yr hyfforddiant CPR ar-lein ❤️❤️




CFfI Penparc
Ymdrech anhygoel arall gan CFfI Penparc a drodd yn GOCH ar gyfer #MisYGalon i gefnogi Sefydliad Prydeinig y Galon – Cymru ❤️❤️

CFfI Pontsian
Ar 17 Chwefror trodd CFfI Pontsian yn goch ar gyfer #MisYGalon i godi ymwybyddiaeth o Sefydliad Prydeinig y Galon ❤️❤️

CFfI Tregaron
Roedd CFfI Tregaron wrth ei bodd fel clwb i gefnogi ymgyrch CFfI Cymru i droi’n goch ym mis Chwefror i godi ymwybyddiaeth ar gyfer Sefydliad Prydeinig y Galon ❤️❤️

CFfI Mydroilyn
Roedd aelodau CFfI Mydroilyn yn falch o gefnogi ymgyrch CFfI Cymru #EWCHYNGOCH ym mis Chwefror i godi ymwybyddiaeth o Sefydliad Prydeinig y Galon. ❤️

CFfI Trisant
Roedd aelodau CFfI Trisant yn gwisgo coch i gefnogi Sefydliad Prydeinig y Galon ❤️

CFfI Llangwyryfon
Trodd aelodau clwb CFfI Llangwyryfon yn goch i gefnogi elusen y flwyddyn CFfI Cymru – Sefydliad Prydeinig y Galon ❤️

CFfI Cymru
Ar Ddydd San Ffolant, cynhaliodd Swyddfa CFfI Cymru fore coffi COCH. Hoffem ddiolch i bawb a ddaeth draw i Ganolfan CFfI Cymru i gefnogi ein Bore Coffi Coch ar gyfer #MisYGalon Rhwng gwerthu cacennau, ein raffl a’r gystadleuaeth “Dyfalu faint o losin yn y jar?” codwyd cyfanswm o £187.50
Rhaid diolch arbennig i’n staff a’n swyddogion a fu’n brysur yn pobi ac i’r busnesau bach a gefnogodd y digwyddiad gyda rhoddion cacennau – Diolch o galon!





CFfI Eglwyswrw
Cefnogodd aelodau’r clwb o CFfI Eglwyswrw Elusen Ddewisol CFfI Cymru: British Heart Foundation drwy droi’n goch! ❤️

CFfI Caerwedros
Cefnogwyd Clwb Caerwedros CFfI Cymru drwy wisgo coch i godi ymwybyddiaeth am ‘British Heart Foundation – Wales’. ❤️❤️

CFfI Lledrod
Ar 13 Chwefror 2025, cefnogodd CFfI Lledrod #MisYGalon drwy wisgo coch i godi ymwybyddiaeth o Sefydliad Prydeinig y Galon ❤️

CFfI Bodedern
Ar 11 Chwefror 2025, cynhaliodd CFfI Bodedern noson hyfforddi CPR a chrempog! Ymunodd nifer o aelodau o wahanol glybiau yn Ynys Môn â CFfI Bodedern i gwblhau’r hyfforddiant CPR. Fe wnaethon nhw godi £40 i Sefydliad Prydeinig y Galon drwy werthu crempogau a chacennau blasus. Diolch am eich cefnogaeth! ❤️❤️






CFfI Felinfach
Ar 11 Chwefror 2025, cefnogodd aelodau CFfI Felinfach #MisYGalon drwy wisgo coch i godi ymwybyddiaeth o Sefydliad Prydeinig y Galon ❤️

CFfI Llanddeiniol
Ar 10 Chwefror cynhaliodd CFfI Llanddeiniol Noson Goffi i #MisYGalon! Yn ymuno â’r clwb roedd Jayne Lewis o Sefydliad Prydeinig y Galon ac fe wnaeth pob aelod ymgymryd â’r hyfforddiant CPR ar-lein 15 munud. Cododd y clwb £260, anhygoel! Da iawn i chi gyd! ❤️




CFfI Glannau Tegid
Ar 3 Chwefror, cwblhaodd CFfI Glannau Tegid hyfforddiant CPR sylfaenol i gefnogi Elusen Cadeirydd CFfI Cymru; Sefydliad Prydeinig y Galon yn ystod Mis y Galon! ❤️❤️❤️ Diolch i chi Glannau Tegid!

#EWCHYNGOCH
Mae clybiau a siroedd ledled Cymru hefyd wedi bod yn cefnogi #MisYGalon drwy droi eu platfformau cyfryngau cymdeithasol yn goch am fis Chwefror!













