Newyddion CFfI Cymru
Mae CFfI Cymru yn edrych ymlaen at ddathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid
Cynhelir digwyddiad arbennig gyda CFfI Cymru ar Ddydd Mercher, 25ain o Fehefin yn Adeilad Pierhead, Bae Caerdydd rhwng 12yp a 1.30yp. Mae’r digwyddiad yn rhan o wythnos gwaith ieuenctid yng Nghymru ac yn gyfle gwych i aelodau o’r mudiad i ddathlu gwaith da CFfI Cymru gan aelodau o’r mudiad. Hefyd yn ystod y digwyddiad, cyflwynir Marc Ansawdd gwobr Efydd i CFfI Cymru i gymeradwyo ac i dystiolaethu’r gwaith arbennig mae CFfi Cymru yn ei wneud ar gyfer ieuenctid Cymru.
Mae’r digwyddiad wedi cael ei noddi yn garedig gan Samuel Kurtz AS sy’n gyn aelod gweithgar o CFfI Sir Benfro. Hefyd diolch i Gronfa Ymddiriedolaeth Elusennol NFU am noddi’r digwyddiad.