News

Mae CFfi Cymru yn cefnogi Wythnos Diogelwch Fferm 2023

Mae CFfi Cymru yn un o brif gefnogwyr Wythnos Diogelwch Fferm 17-21 Gorffennaf, sy’n cael ei rheoli a’i hariannu gan y Sefydliad Diogelwch Fferm (neu Yellow Wellies fel y mae llawer yn eu hadnabod). Dros y 10 mlynedd diwethaf mae’r ffocws blynyddol wedi tyfu ac mae bellach yn cynnwys dros 400 o bartneriaid mewn pum gwlad – Lloegr, yr Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon. Mae’r ymgyrch bellach wedi’i sefydlu er un mlynedd ar ddeg, ac, mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn codi ymwybyddiaeth o effeithiau damweiniau fferm ar y diwydiant a’r gymuned ac yn hyrwyddo pwysigrwydd ffermio’n ddiogel. Yn ôl Stephanie Berkeley, rheolwr Sefydliad Diogelwch Fferm, yr elusen sy’n arwain yr ymgyrch: “Er bod arwyddion bod agweddau ac ymddygiad yn newid yn y diwydiant, nid yw’r newid hwn yn dod yn ddigon cyflym – yn enwedig i’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan ddigwyddiadau sy’n newid bywyd neu ddigwyddiadau a all ddod â bywyd i ben ledled y DU ac Iwerddon dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae Wythnos Diogelwch Fferm yn gyfle i ddod ynghyd fel diwydiant a chydnabod y rhai a gollwyd ac a effeithiwyd gan ddigwyddiadau ar ffermydd. Boed yn newydd i’r diwydiant neu’n ffermio ers blynyddoedd, mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae wrth wella’r record ddiogelwch gwael yr ymddengys na allwn ei wella. Mae’r wythnos hon yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth o’n cyfrifoldebau fel ffermwyr, gweithwyr fferm, gweithwyr neu gontractwyr a darparu cyngor ymarferol i wneud pob dydd yn ddiogel.

Ychwanegodd Hefin Evans Cadeirydd CFfi Cymru: “Rydym yn falch o gefnogi’r ymgyrch Wythnos Diogelwch Fferm flynyddol. Gall ymgyrch sy’n cynnwys pum gwlad wir dynnu sylw, a lleihau’r risg o anafiadau y mae ffermwyr a gweithwyr fferm yn eu hwynebu o ddydd i ddydd. Pan fydd llawer o leisiau’n ymuno â’i gilydd i ysgogi newid, dyma pryd y gall ddigwydd. Dylem fod yn ffermio’n ddiogel bob dydd o’r flwyddyn nid yn ystod Wythnos Diogelwch Fferm yn unig.” I gael rhagor o wybodaeth am ‘Wythnos Diogelwch Fferm’, ewch i www.yellowwellies.org neu dilynwch @yellowwelliesUKar Twitter/Facebook/Instagram.