Newyddion

Mae CFfI Cymru wedi lansio Cystadleuaeth Prif Gynhyrchydd Porc!

Lansiwyd cystadleuaeth Prif Gynhyrchydd Porc newydd ar ddydd Mawrth Sioe Frenhinol Cymru.

Yn ystod Derbyniad Materion Gwledig CFfI Cymru ar 25ain o Orffennaf, yn Sioe Frenhinol Cymru, cafodd y Gystadleuaeth Prif Gynhyrchydd Porc ei lansio.

Bydd y cynllun yn rhoi cyfle i ymgeiswyr llwyddiannus ddysgu a datblygu’r hanfodion sydd eu angen i redeg menter foch llwyddiannus.

Sesiwn ar y fferm bydd y sesiwn gyntaf gyda chyflwyniad i gadw moch gan gynnwys hwsmonaethmoch a chadw moch. Bydd sesiwn arall yn canolbwyntio ar ddeddfwriaeth gyfredol o fewn y diwydiant moch. Bydd y pump ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn elwa o drafodaethau gyda chyn-ymgeiswyr Menter Moch Cymru a CFfI Cymru i ddysgu o’u profiadau. Rhoddir arweiniad marchnata, hyrwyddo a brandio i’r ymgeiswyr hefyd, gydag uchafbwynt y gystadleuaeth yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru gyda’r cyfle i arddangos y moch.

Meddai Dewi Davies, Cadeirydd Pwyllgor Materion Gwledig, “Mae’n rhoi pleser mawr i ni fel Pwyllgor Materion Gwledig CFfI Cymru i lansio Cystadleuaeth Prif Gynhyrchydd Porc. Roedd y cynllun blaenorol yn sail i aelodau ar draws Cymru i ddechrau mentrau moch sydd wedi bod o fudd mawr i arallgyfeirio a chreu incwm ychwanegol i fusnes y fferm. Bydd cystadleuaeth Prif Gynhyrchydd Moch yn cyrraedd ei huchafbwynt yn y Ffair Aeaf lle fydd y cystadleuwyr yn cael y cyfle i harddangos eu moch.”

Meddai Angharad Thomas, Is-Gadeirydd Materion Gwledig, “Mae’n diolch yn mynd i Ymddiriedolaeth Elusennol NFU am ariannu a galluogi ni i redeg y cynllun fydd o fudd mawr i’n haelodau. Gyda chefnogaeth Menter a Busnes byddwn yn medru darparu hyfforddiant a chefnogaeth llawn drwy gydol y rhaglen.”

Rydym yn annog aelodau sydd yn edrych i arallgyfeirio wneud cais am y profiad gwerthfawr hwn,” ychwanegodd Dewi.

Mae ceisiadau wedi agor a fyddant yn cau ar 28ain Awst > Cystadleuaeth Prif Cynhyrchwr Porc CFfI Cymru 2023 Wales YFC Prime Pork Producer Competition 2023 Cais Ysgrifenedig / Written Application

Or Chwith: Angharad Thomas, Is-Gadeirydd Materion Gwledig. Dewi Davies, Cadeirydd Pwyllgor Materion Gwledig. Lee Pritchard, Swyddog Materion Glwedig CFfI Cymru.