Wythnos gyda Dŵr Cymru – Cyfle i Siapio’r Dyfodol
Gaiff dau aelod CFfI’r cyfle i dreulio wythnos gyda Dŵr Cymru i ddarganfod y gwaith y meant yn ei wneud gyda ffermwyr a rheolwyr tir i amddiffyn ffynonellau dŵr yfed ledled Cymru. Yn ystod yr wythnos fe welwch sut mae dŵr yn gwneud ei ffordd o’r ffynhonnell i’r tap, ymweld â gwaith trin dŵr a chael cyfle i ddylanwadu ar eu prosiectau yn y dyfodol.
Byddwch yn treulio wythnos gyda’r Tîm Dalgylch Dŵr Yfed. Maen nhw’n gyfrifol am sicrhau bod y dŵr sy’n cael ei gymryd o’r amgylchedd o’r ansawdd gorau posib cyn iddo fynd i mewn i’w gwaith trin! Mae hyn er mwyn iddynt osgoi’r angen i ddefnyddio cemegolion ac egni ychwanegol i gael y dŵr yfed yn berffaith i’w cwsmeriaid.
Ddim yn siŵr beth yw dalgylch dŵr yfed? Dim problem! Dyma’r ardal lle mae dŵr yn cael ei gasglu gan y dirwedd naturiol. Yna mae’r dŵr hwn yn llifo i mewn i afon neu gronfa ddŵr y mae Dŵr Cymru yn tynnu ohoni.
Hoffem i chi rannu’r hyn rydych yn ei ddysgu gyda Phwyllgor Materion Gwledig CFfI Cymru, cwblhau blogiau gyda’n help yn ogystal â meddwl am ffyrch ychwanegol o rannu’ch profiadau.
Gwybodaeth Bwysig
Ydych chi’n gymwys?
I fod yn gymwys rhaid i chi;
• Fod yn 16 oed neu’n hŷn ar ddechrau’ch wythnos gyda Dŵr Cymru
• Fod yn aelod CFfI cyfredol
• Adnewyddu eich aelodaeth gyda CFfI ar gyfer y flwyddyn 2020/2021
Pryd a Ble?
Bydd eich wythnos yn cychwyn rywbryd ym mis Awst 2020 a bydd Dŵr Cymru yn cadarnhau’r lleoliad mwyaf addas yn y cam cyfweld.
Sut y gallai wneud cais?
Gwnewch gais trwy ddilyn y botwm isod i lenwi’r ffurflen gais rhwng 1 Mai 2020 a 22 Mai 2020.
Byddwn yn cynnal cyfweliadau ar gyfer y cyfle hwn ganol mis Mehefin naill ai ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, Llanfair ym Muallt neu ar-lein.