Newyddion

LANSIO PARTNERIAETH NEWYDD CFFI GYDA ‘QUAD BIKES WALES’


Yn gweithio mewn partneriaeth gyda ‘Quad Bikes Wales’, fe lansiodd Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru sialens newydd beic pedair olwyn yn ddiweddar.  Derbyniodd yr enillydd feic pedair olwyn newydd Honda, drwy garedigrwydd ddeliwr awdurdodedig De Cymru.

Mae CFfI Cymru hefyd yn falch i weithio fel partner o fewn Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru.  Nôd y bartneriaeth yw codi’r ymwybyddiaeth o heriau iechyd a diogelwch, goblygiadau a sut i weithio yn ddiogel.

Yn siarad ar ran pwyllgor Materion Gwledig CFfI, nododd Lee Pritchard, “Fel aelod gweithredol o Bartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru, mae CFfI Cymru yn ymroddedig i godi’r ymwybyddiaeth am ddiogelwch fferm a drwy’r gystadlaeth newydd hon canolbwyntiwyd ein sylw ar addysgu pobl ifanc am bwysigrwydd diogelwch beic pedair olwyn ar y fferm”.

Yn gweithio gyda beirniad profiadol Mr Byron Evans o Forgannwg heriwyd yr aelodau i gynnal her ymarferol, yn ogystal â chwblhau holiadur diogelwch.

Beic Pedair Owlyn Honda am flwyddyn oedd y wobr fawreddog, yn ogystal â helmed diogelwch i’r tri cystadleuydd gorau.  Cystadlodd aelodau o bob cornel o Gymru yn yr her, gyda Lloyd Hammond o CFfI Maesyfed yn ennill y wobr anrhydeddus.  Nodwyd bod Cennydd Jones a William Jenkins o CFfI Ceredigion yn llawn deilwng o’r ail safle. Mae CFfI Cymru yn ymestyn eu diolch i ‘Quad Bikes Wales’ a Max Herbert am eu cefnogaeth  o’r gystadleuaeth newydd yma, a hefyd i Brian Rees o Bartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru a Byron Evans am feirniadu.

Llun – Cyflwyniad Beic Pedair Olwyn Chwith i Dde;

Lloyd Hammond, CFfI Maesyfed; Lee Pritchard, Cadeirydd Pwyllgor Materion Gwledig; Non Williams, Is-Gadeirydd Pwyllgor Materion Gwledig; Brian Rees, Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru a Max Herbert, ‘Quad Bikes Wales’.