Blog yr Aelodau
Interrailing 2023
Fe wnaethon ni ddal i fyny gyda Carys Jones o CFfI Ceredigion i glywed am eu hantur Interrailing!
Yn ddiweddar, fe aethom ar antur interalio gyda CFfI Cymru oedd yn daith lawn gydag atgofion bythgofiadwy a chyfeillgarwch newydd. Aeth y daith â ni o Fryste i Genava, Milan, Fenis, Ljubljana, Llyn Bled, Berlin, Budapest ac Amsterdam.
Cychwynnom ar siwrne wych i ddinasoedd hudolus Geneva, Milan, Fenis, Ljubljana a thirweddau syfrdanol Llyn Bled, cyn cyrraedd y penllanw ym mhrifddinasoedd byrlymus Berlin, Budapest ac Amsterdam.
Dechreuodd ein taith ym Mryste, wrth ffarwelio gyda’r cyfarwydd a chroesawu’r anghyfarwydd gyda breichiau agored. Mi wnaeth harddwch tawel Genava a dyfroedd tywynnog Llyn Geneva ein swyno, gan gynnig cyferbyniad tawel i brysurdeb y ddinas.
Mi wnaeth strydoedd ffasiwn Milan a thirnodau hanesyddol fel Eglwys Gadeirlan Duomo ein hysbrydoli i archwilio ei threftadaeth ffasiwn a diwylliannol. Roedd Fenis yn teimlo fel camu’n ôl mewn amser, gyda’i chamlesi troellog a’i phensaernïaeth gywrain; dinas sy’n amlygu rhamant a dirgelwch.
Gwnaeth Ljubljana, prifddinas Slofenia, ein swyno gyda’i naws tref fechan a’i phontydd prydferth (ond nid y mosgitos!) Wedi siwrne fer, roeddem yn Llyn Bled – fel lle allan o stori tylwyth teg, gyda dŵr emrallt a’r Castell Bled eiconig ar ben clogwyn.
Mae Budapest, a elwir aml yn “Berl Danube” yn ddinas Ewropeaidd hudolus. Sicrhaodd ‘thermal baths’ a phensaernïaeth fawreddog Budapest bod ymlacio a syfrdandod yn cael ei werthfawrogi ar y cyd. Roedd cyfuniad unigryw gan y ddinas o hanes a moderniaeth wnaeth ein gadael wedi’n swynol.
Wrth wneud ein ffordd i Berlin, daeth hanes cyfoethog a diwylliant bywiog y ddinas yn fyw wrth deithio drwy’r ddinas ar feiciau. O weddillion Wal Berlin i hanes prysur Bebelplatz, cynigodd Berlin gipolwg i ddinas sy’n esblygu’n gyson.
Daeth ein hantur i ben yn Amsterdam, dinas sydd yn adnabyddus am ei chamlesi hardd, amgueddfeydd celf a bywyd nos fywiog. Roedd crwydro’r gymdogaeth eclectig a gwerthfawrogi’r awyrgylch artistig yn ddiwedd perffaith i’r daith.
Buaswn yn annog yn gryf i chi ystyried ymgeisio am daith gyda CFfI Cymru, Mae’n gyfle gwych ar gyfer twf personol, cyfoethogi diwylliannol a meithrin cysylltiadau parhaol. Byddwch yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn profiadau unigryw, cyfarfod unigolion o’r un weledigaeth a chreu atgofion bydd yn aros gyda chi am oes.