Elusennau a Her y Cadeirydd

2022-23

Mae Cadeirydd presennol CFfI Cymru, Hefin Evans, wedi dewis Ambiwlans Awyr Cymru a Diabetes UK Wales i gefnogi eleni.


Her y Cadeirydd

Cadeirydd CFfI Cymru, Hefin Evans a’r Mascot Her, Hettie yr Heffer

Eleni, bydd Hefin Evans, Cadeirydd CFfI Cymru yn cychwyn ar ei her fel cadeirydd sef Tri Chopa Cymru. Bydd hyn yn cynnwys dringo’r tri mynydd uchaf a mwyaf eiconig yng Nghymru; Yr Wyddfa Copa talaf Cymru, Cadair Idris, copa ysblennydd ar ymyl deheuol Parc Cenedlaethol Eryri ac yn olaf, Pen y Fan yng nghanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Ochr yn ochr â’i Mascot, Hettie yr Heffer, bydd y grŵp o aelodau yn cychwyn yn gynnar ar ddydd Sadwrn y 12fed o Awst, gan ddringo’r tri chopa yn erbyn y cloc i godi rhoddion er budd Ambiwlans Awyr Cymru, Diabetes UK Cymru a CFfI Cymru.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymgymryd â’r her hon (neu ran ohoni), cysylltwch â gwybodaeth@yfc-wales.org.uk.


Am yr Elusennau…

Roedd yn bleser gennym groesawu’r ddwy elusen i’r Ganolfan yn ystod Ffair Aeaf Frenhinol Cymru!

Diabetes UK
Ambiwlans Awyr Cymru
Diabetes UK

“Rydym yn ddiolchgar iawn i Ffermwyr Ifanc Cymru (CFfI) am gadarnhau Diabetes UK Cymru fel un o’u helusennau i’w cefnogi dros y flwyddyn nesaf. Mae diabetes yn gyflwr difrifol a gall effeithio pawb; mae cefnogaeth y CFfI yn sicrhau y gallwn barhau â’r frwydr yn erbyn argyfwng iechyd sy’n cynyddu yn Gymru. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r CFfI i godi ymwybyddiaeth a chefnogi pobl sy’n byw gydag ac mewn perygl o ddatblygu diabetes, yn enwedig yn ein cymunedau ffermio yng Nghymru.

Mae ein brwydr yn cynnwys pob un ohonom; rydym yn falch o gydweithio gyda’r CFfI ac yn edrych ymlaen at y flwyddyn sydd i ddod.”

– Rachel Burr, Cyfarwyddwr Cenedlaethol, Cymru (Diabetes UK)


Wales Air Ambulance Charity

“Mae’n golygu popeth i Ambiwlans Awyr Cymru gael ei ddewis fel elusen y flwyddyn i CFfI Cymru. Mae nifer uchel o’n cenadaethau achub bywyd yn ymwneud ag amaethyddiaeth neu ffermio. Mae cael meddygon ar yr hofrenyddion a cherbydau ymateb cyflym yn golygu ein bod bellach yn gallu dod ag adrannau damweiniau ac achosion brys i’r claf yn hytrach na mynd â’r claf i’r ysbyty. Mae hyn yn sicrhau y gellir rhoi triniaeth achub bywyd yn y fan a’r lle gan arwain at ganlyniadau gwell ac amseroedd adferiad cyflymach. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyllid uniongyrchol gan y llywodraeth felly rydym yn dibynnu’n wirioneddol ar gefnogaeth pobl Cymru i wneud yn siŵr y gallwn barhau i wasanaethu Cymru ac achub bywydau.”


“Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn elusen anhygoel gan eu bod yn darparu achubiaeth i ardaloedd gwledig Cymru, gan ddarparu trafnidiaeth a sylw meddygol i bobl mewn damweiniau. Mae Diabetes Cymru yn elusen sy’n agos at fy nghalon gyda llawer o aelodau’r teulu yn dioddef ohono. Ac rwy’n anelu at godi ymwybyddiaeth o’r afiechyd. Yr her y byddaf yn cychwyn arni yw Her Tri Chopa Cymru, a fydd, gobeithio, yn cael ei chynnal ym mis Awst 2023. Bydd yr her yn agored i bob aelod, gallant ymuno â ni i wneud y tair copa i gyd neu ddewis y copa agosaf atyn nhw.”

Hefin Evans, Cadeirydd CFfI Cymru

Elusen y Cadeirydd 2021-22

Dewisiodd Caryl Haf, Cadeirydd CFfI Cymru 2021-22, Cymdeithas Alzheimer Cymru fel ei elusen hi. Llwyddodd Caryl, ynghyd â chefnogaeth a chyfraniad siroedd ac aelodau, i godi swm rhyfeddol i’r elusen.