Newyddion

HER ATV QUAD BIKES WALES

Am yr ail flwyddyn yn olynol, diolch i haelioni caredig Quad Bikes Cymru, mae CFfI Cymru yn cynnig cyfle i’w aelodau ennill y defnydd o feic cwad newydd sbon am flwyddyn.

Yn ôl eto eleni mae Her ATV (All Terrain Vehicle) yn ceisio hyrwyddo’r defnydd o arferion diogelwch fferm ymhlith Aelodau CFfI Cymru. I fod gyda’r siawns o ennill, mae aelodau wedi cael eu tasgio i greu ‘Hysbyseb Diogelwch ATV’ 1 munud o hyd yn canolbwyntio ar Ddiogelwch Beic Cwad at ddefnydd Amaethyddol ynghyd a chwblhau holiadur byr.

Mae hyrwyddo ac annog arferion diogel ar ffermydd yn ymrwymiad y mae CffI Cymru yn ei ddal i’w aelodau a gaiff ei gryfhau gan ein cynnwys gyda grŵp Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru. Amaethyddiaeth yw diwydiant mwyaf marwol y DU – mae 134 o weithwyr fferm wedi marw yn ystod y 5 mlynedd diwethaf.

Yn anffodus, mae Beca Glyn, aelod CFfI Cymru a Chadeirydd CFfI Ysbyty Ifan, Eryri yn gwybod yn iawn y canlyniadau o bgwddfeidio â dilyn mesurau diogelwch fferm yn dilyn damwain ddifrifol ar feic cwad ym mis Mawrth 2018 a thorodd asgwrn ei phenglog, cafodd anafiadau i’w gwddwf a chleisioei chorff yn arw.

Nawr, ar ôl cyfnod adfer hir o naw mis ond yn dal i fyw gyda chanlyniad y ddamwain gyda’i thîm meddygol yn ansicr a fydd Beca  byth yn adennill ei synnwyr o flas, arogl a’i gallu i gysgu trwy’r nos, mae’n cydnabod ei bod hi’n ffodus iawn i fod yn fyw .

“Dw i wedi gwneud cynnydd aruthrol, ond dw i’n gwybod hefyd, petawn i wedi bod yn gwisgo helmed ac wedi cael hyfforddiant ar sut i  yrru cerbyd ATV yn ddiogel, efallai na fyddwn wedi gorfod mynd i’r ysbyty o gwbl.”

Bellach yn gweithredu fel eiriolwr dros ddiogelwch fferm yng Nghymru, mae Beca Glyn yn benderfynol o godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch fferm a’r risgiau sy’n gysylltiedig â gwaith amaethyddol.

“Mae gan bron popeth a wnawn ar y fferm risgiau’n gysylltiedig â nhw, o drin anifeiliaid i weithredu peiriannau ac o ddelio â phlaladdwyr i yrru tractorau ac ATVs, ond os byddwch wedi cael hyfforddiant, byddwch yn gwybod pa gamau i’w cymryd i leihau’r risgiau o ddamweiniau.”

Rhaid i gystadleuwyr feddu ar naill ai Drwydded Yrru lawn neu Drwydded Tractor, y mae’n ofynnol anfon copi / delwedd trwy e-bost at CFfI Cymru ynghyd â chopi / delwedd o’u tystysgrif cymhwysedd mewn Trin ATV.

Dywedodd Sam Marvin o Quad Bikes Wales, deliwr awdurdodedig Honda ar gyfer De Cymru:

“Mae Quad Bikes Wales yn falch o fod yn cefnogi Cystadleuaeth CFfI Cymru eto yn 2020. Pob lwc i’r holl aelodau sy’n cymryd rhan”

Y prif gynghorion ar gyfer gyrru ATV yn ddiogel

  • Gwnewch yn siŵr fod pob gyrrwr yn cael hyfforddiant digonol
  • Gwisgwch helmed addas bob amser
  • Peidiwch â chario teithwyr (oni bai bod y beic cwad wedi’i gynllunio ar gyfer teithwyr)
  • Gwaherddir plant o dan 13 oed rhag defnyddio ATV yn y gwaith. Dylai rhai dros 13 oed ond yrru ATV – o faint â phŵer addas – ar ôl cael hyfforddiant ffurfiol ar ATV pŵer isel
  • Dylech gynnal archwiliadau diogelwch a chynnal y beic yn unol ag argymhellion y gweithgynhyrchwr, e.e. gwiriwch bwysedd y teiars yn rheolaidd, y brêcs a’r throtl
  • Gwnewch yn siŵr bod unrhyw lwyth wedi’i osod yn ddiogel, nad yw wedi’i orlwytho, a’i fod yn gytbwys
  • Cymerwch ofal ychwanegol gyda threlar neu lwyth a gwnewch yn siŵr eich bod yn deall sut maent yn effeithio ar sefydlogrwydd y beic cwad
  • Cadwch at lwybrau wedi’u cynllunio ymlaen llaw, os yw’n bosibl, a cherddwch ar hyd llwybrau newydd os oes angen rhag ofn bod rhwystrau, pantiau neu beryglon eraill na ellir eu gweld

Cofnodion fideo i’w hanfon at Sian Thomas (sian.thomas@yfc-wales.org.uk) trwy e-bost neu WeTransfer erbyn dydd Mawrth 24 Tachwedd 2020.