Newyddion CFfI Cymru
HELPWCH I LUNIO DYFODOL CANOLFAN CFfI CYMRU
Mae CFfI Cymru yn gofyn am fewnbwn aelodau, cyn-aelodau a chyfeillion y mudiad i helpu datblygu cartref y CFfI ar Faes Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru.
Yn dilyn ymlaen o brynu prif brydles canolfan y CFfI yn 2019, mae CFfI Cymru yn gofyn i aelodau, cyn-aelodau a chyfeillion y sefydliad i gwblhau arolwg byr ynghylch eu barn a’u syniadau ar gyfer dyfodol y ganolfan, sydd yn seiliedig ar faes y Sioe Frenhinol, yn Llanelwedd.
Gallwch gwblhau’r arolwg naill ai trwy ymweld â’n gwefan www.cffi.cymru neu
trwy gysylltu â chanolfan CFfI Cymru i gael copi caled.
Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion i’r arolwg yw dydd Gwener 6ed o Fawrth, 2020
ac mae’r mudiad yn edrych ymlaen at glywed gan gynifer o bobl â phosib.