
GWOBR STOCMON LLAETH CYNALIADWY
Newydd ar gyfer 2025, mae’r wobr hon yn chwylio am aelod sy’n gweld y cyfleoedd a’r heriau o ddod yn stocmon mwy cynaliadwy ac sy’n awyddus i symud ymlaen a chroesawu newid cadarnhaol. Rhywun sydd â rhywfaint o reolaeth dros o leiaf un fenter ar y fferm ac sydd wedi dechrau amlinellu a gwneud gwelliannau o fewn y fenter neu fusnes y fferm.
2025 – FRANCES EVANS
Mae’n fusnes teuluol, lle mae Frances, ei mam a’i thad yn rhedeg pob agwedd o reoli ar y fferm, ac yn cyflogi 5 aelod o staff llawn amser, ynghyd â 4 rhan amser. Mae ei thad yn rheoli’r bwydo, cyflenwi bwydo, gwaith maes a chynnal a chadw. Mae ei Mam yn gofalu am y lloi a chyllid y busnes. Mae Frances yn gofalu am reolaeth buches y gwartheg godro a’r da ifanc. Maent yn gwneud yr holl waith milfeddygol ar y safle, gan gynnwys AI, diagnosis beichiogrwydd a rhaglenni cysoni ffrwythlondeb, a thocio carnau. Maent yn godro 500 o wartheg Holstein pedigri dair gwaith y dydd, ac yn rhedeg system mewnbwn uchel, allbwn uchel sy’n cynhyrchu 12,700 litr y fuwch, y flwyddyn. Maent yn bwriadu ehangu’r fuches yn y blynyddoedd i ddod, ynghyd â chymryd fferm arall i symud da ifanc oddi ar y safle i ganiatáu mwy o le ar gyfer y fuches odro.
