RHEOLAETH GLASWELLTIR GORAU


2025 – DANIEL WILLIAMS

Busnes teuluol sy’n cael ei redeg gan Daniel ynghyd â’i Dad a’i Fam gyda chymorth tymhorol adeg wyna gan ei frawd, ei chwaer a’i ffrind da, Eilir. Mae Daniel yn rhan o’r broses o gymryd tenantiaeth fferm newydd ar fferm 270 acer. Mae’n adeiladu stoc ei hun i baratoi ac mae wedi prynu 120 o famogiaid croesfridiog i’w hychwanegu at ddiadell pedigri ei hun. Mae hefyd wrthi’n magu 45 o loi i bori’r gaeaf nesaf gyda’r nod o’u pesgu erbyn 18 mis yn dilyn yr un patrwm maent yn ei wneud ar hyn o bryd. Maent yn ffermio cyfanswm o 500 erw i gyd wedi ei rhannu i mewn i 7 bloc, 200 erw sy’n eiddo ac mae’r gweddill yn ddaear rhent.


2024 – MORGAN TUDOR

Fferm Biff a Defaid oedd Llysun am 45 o flynyddoedd. Yn 2018 penderfynodd y teulu werthu’r stoc a phrynu lloi godro fewn yn ei lle. Ers 2020 mae Llysun wedi bod yn fferm odro, ac erbyn heddiw mae 450 o wartheg Jersey X Friesian i gyd yn cael ei lloia yn y gwanwyn, ac yn cynhyrchu 5,500 litr y flwyddyn. Mae’r gwartheg allan o fis Mawrth tan ganol mis Tachwedd ac yn pori ar system gylchdro. Mae Morgan wedi trio rhan fwyaf o systemau pori dros y blynyddoedd ond wedi setlo ar pori cylchdro gyda’r gwartheg godro, ‘strip grazing’ efo’r lloi ar y kale dros y gaeaf, a ‘block grazing’ gyda heffrod ar y mynydd. Mae Llysun yn fferm deuluol gyda Morgan, ei fam Catrin ai’ Nain a Thaid; Ann a Tom Tudor yn bartneriaid yn y busnes. Mae Morgan yn gweithio ar y fferm llawn amser gyda un aelod o staff llawn amser a dau hanner amser. Morgan sydd yn creu y penderfyniadau o ddydd i ddydd, ond mae popeth yn cael ei drafod gyda’r staff ar penderfyniadau mawr yn cael eu trafod gyda’r partneriaid.