GWOBR PENCAMPWR IECHYD MEDDWL

NEWYDD ar gyfer 2025, mae’r wobr hon ar gyfer unigolyn, grŵp, clwb neu Sir sydd wir wedi bod yn bencampwr / bencampwyr iechyd meddwl o fewn y gymuned wledig. Byddai’r person / grŵp yn weithgar o fewn y gymuned amaethyddol a’r gymuned wledig ehangach. Bydd yr enillydd teilwng yn gallu dangos dealltwriaeth o bwysigrwydd cefnogi a chodi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl o fewn cymuned wledig.


2025 – WILLIAM MEADMORE

Ffermwr llaeth a gyrrwr tractor 25 mlwydd oed o Gwent yw Will. Llynedd roedd yn Gadeirydd ar ei glwb sef CFfI Raglan. Tra ei fod yn un o swyddogion y clwb mae wedi ceisio codi cymaint o arian ag sy’n bosibl ar gyfer elusennau. Yn ei flwyddyn fel is-Gadeirydd cododd £2500 ar gyfer elusen gancr leol, ac yn ei flwyddyn fel Cadeirydd cododd £5000 drwy wneud ‘Ploughathon’ 24 awr, a rannwyd yr arian rhwng Ambiwlans Awyr Cymru ag elusen Iechyd Meddwl sef ‘Farming Minds’.

Elusen sydd wedi’i leoli yn Henffordd yw ‘Farming Minds’, dewisodd Will gefnogi’r elusen yma gan ei fod yn byw mor agos at y ffin ac yn adnabod nifer o bobl sydd wedi manteisio o waith yr elusen, sydd wedi ei ysbrydoli i helpu sefydliad o’r fath!