
GWOBR ARALLGYFEIRIAD GORAU
2025 – EMILY WILLIAMS
Nôl ym mis Medi 2022 fe wnaeth Emily a’i gwr Dyfrig, cynnal eu gwledd priodas yn yr ysgubor ar eu fferm, Tanygraig. Cyn hynny, roedd y lle yn cael ei ddefnyddio i gadw defaid am dros can mlynedd ac fe dreulion nhw misoedd yn cael yr hen adeilad cerrig yn barod ar gyfer y diwrnod mawr.
Ar ddiwrnod eu priodas, fe grybwyllwyd y syniad o gadw’r ysgubor fel lleoliad parhaol ar gyfer digwyddiadau a phriodasau, ac ar ôl derbyn nifer o negeseuon wrth pobl yn gofyn am logi’r adeilad, dechreuwyd y busnes: “Tanygraig”. Mae’r ddau yn gwneud y gwaith hyn yn ogystal â’n swyddi pob dydd, sef ffermwr a meddyg teulu dan hyfforddiant. Ond, byddai dim o hyn y bosib heb help eu staff achlysurol, yn enwedig ar ddiwrnod priodas neu digwyddiad!
Yn ychwanegol at hyn, mae’r fusnes hefyd yn gweithio gyda nifer o fusnesau lleol eraill megis arlwywyr, trefnwyr blodau, lletyau, ffotograffwyr a nifer mwy.

2024 – CATRIN MEDI OWEN & GWION PUW JONES
Dechreuodd “Tafolog Luxury Stay Wales” yng ngaeaf 2020. Mae gan ddau frawd Dylan a Gwion ynghyd â’u partneriaid Mared a Catrin gyfranddaliadau cyfartal yn y busnes. Gydag ansicrwydd ffermio a heb wybod beth sydd gan y dyfodol fe benderfynon nhw arallgyfeirio i’r diwydiant twristiaeth am incwm ychwanegol. Wedi’u lleoli yng nghefn gwlad hardd Cymru, mae eu cartrefi tanddaearol unigryw yn ecogyfeillgar ac yn cyd-fynd â bryniau tonnog Eryri. Mae’n noddfa moethus ar ffurf cabanau gwyliau
arddull hobbit ynghyd â thybiau poeth, cawodydd cerdded-i-mewn, ac ardal awyr agored breifat syfrdanol. Roedd gan Catrin a Gwion weledigaeth i ddarparu llety gwyliau ecogyfeillgar lle byddai pobl yn gallu mynd i aros heb boeni am niweidio’r amgylchedd. Maent wedi croesawu dros 200 o westeion rhwng y ddau pod ers mis Mai 2022 a hefyd wedi ennill yr eiddo gosod Gwion & Catrin gwyliau gorau yn y DU ac Iwerddon ynghyd â Glampio Gorau yn y DU ac Iwerddon.
