Newyddion

GWLEDD O ADLONIANT Y CFFI YN DOD I GALERI CAERNARFON


Bydd pobl ifanc o 10-26 yn cynrychioli clybiau’r CFfI yn diddanu cynulleidfaoedd gyda’u talent amrywiol yn ystod penwythnos Gwledd o Adloniant CFfI Cymru,  a fydd eleni yn ymgartrefi yn Galeri, Caernarfon.

Mi fydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i aelodau i berfformio ar lwyfan proffesiynol gyda chyfleusterau a chymorth gan reolwyr llwyfan profiadol.

Mewn cyfarfod diweddar o’r is-bwyllgor Cystadlaethau dangosodd wyth Ffederasiwn sirol ddiddordeb i gystadlu yn yr iaith Gymraeg a saith ddiddordeb mewn cystadlu drwy gyfrwng y Saesneg.  Rhoddwyd enwau mewn het a dyma fydd rhediad y cystadlu. Dydd Sadwrn y 29ain o Chwefror yn y gystadleuaeth Gymraeg mi fydd y sesiwn gyntaf yn dechrau am 11.00yb a’r pedwar sir fydd yn cystadlu yn y drefn hon fydd Eryri, Ynys Môn, Meirionnydd a Clwyd. Yna yn dilyn egwyl byddwn yn groesawi pawb yn ôl ar gyfer yr ail sesiwn a fydd yn dechrau am 6.00yh a’r drefn cystadlu fydd Ceredigion, Sir Benfro, Maldwyn, Sir Gâr.

Mi fyddwn yn parhau a’r ŵyl ar ddydd Sul y 1af o Fawrth ac yn dathlu dydd Gŵyl Dewi gyda saith drama fer drwy gyfrwng y Saesneg yn cystadlu am y teitl o bencampwyr gŵyl ddrama CFfI Cymru a’r fraint o fynd ymlaen i gystadlu yng nghystadleuaeth Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru a Lloegr. Mi fydd y sesiwn gyntaf eto yn dechrau am 11.00yb gyda  Maesyfed, Maldwyn Sir Benfro a Brycheiniog yn perfformio. Wedyn yn dilyn egwyl am 6.00yh fe fydd Sir Gâr, Gwent a Morgannwg yn cloi’r cystadlu.

Ein beirniad ar gyfer yr adran Gymraeg fydd Ffion Dafis neu ‘Ffion Gwallt’ oherwydd ei gwallt cyrliog. Mae’n wyneb adnabyddus ar gyfryngau Cymru fel  actores a chyflwynydd teledu a radio. Daw yn wreiddiol o Fangor a ddaeth yn adnabyddus fel cyflwynydd rhaglen i bobl ifanc i-dot yn y nawdegau. Yn ddiweddarach mae wedi actio rhan Llinos yn y gyfres deledu Amdani! Am rygbi merched ac wedi bod yn cyflwyno aml i raglen radio a theledu yn ogystal â chwarae rhannau mewn dramâu llwyfan.

Yn y dramâu Saesneg ein beirniad fydd Mr Joe Riley a ddaw atom o lannau Merwy. Mae Mr Riley yn feirniad cydnabyddedig gyda GoDA ac wedi beirniadu amryw o wyliau dramâu dros Brydain fawr.  Mae o wrth ei fodd ym myd y ddrama ac yn edrych ymlaen at weld cynigion aelodau’r mudiad.

Mae’r tocynnau bellach ar werth drwy gysylltu â Galeri Caernarfon  ac mae modd i chi ei archebu ar lein <https://www.galericaernarfon.com/beth-sydd-mlaen-selected.php?show-id=873617987> neu drwy godi’r ffon. 01286 685 222.

Hefyd yn ystod y penwythnos bydd cystadleuaeth aelod Iau a Hŷn y flwyddyn yn cael eu cyhoeddi o’r llwyfan, ac rydym yn ddiolchgar i gyfreithwyr JCP am noddi’r gystadleuaeth yma.

Estynnwn groeso cynnes i gefnogwyr a ffrindiau’r mudiad ddod i ymuno â ni yn Galeri, Caernarfon neu os ydych yn un sy’n mwynhau ym myd y ddrama dyma’r penwythnos i chi. Dewch i ymuno a’r Ffermwyr ifanc mae gwledd yn aros amdanoch chi.