Newyddion CFfI Cymru
Gelligaer neu GelligAUR?
Mae Clwb Ffermwyr Ifanc Gelligaer wedi ei leoli yn ne Cymru yn ffederasiwn sirol Morgannwg. Yn 2020, dim ond chwech aelod oedd gan y clwb brwdfrydig, angerddol a chyfeillgar yma. Symudwch ymlaen bedair mlynedd gyda llawer o waith caled gan yr aelodau hŷn, mae’r clwb wedi mynd o nerth i nerth gyda aelodaeth bresennol o 45.
Ar ddydd Sul 10fed Mawrth 2024 yn ystod Cystadleuaeth Ddrama Saesneg CFfI Cymru, perfformiodd Gelligaer “Game of Tiaras”, comedi gan ddramodydd cynhyrchiol Don Zolidis. Dewisodd y clwb y script yma gan ei fod yn cynnig amrywiaeth eang o gymeriadau fel y gellir cael mor gymaint a phosibl o aelodau i gymryd rhan – llawer ohonynt ar lwyfan am y tro cyntaf eleni.
“Pan mae hen Frenin ar wlad hudol yn penderfynnu rhannu ei ymerodraeth rhwng ei ferched Cinderella, Belle a Snow Queen, mae trasiedi erchyll yn dilyn. Trasiedi digri ofnadwy! Yn cyfuno cynlluniau tro o ‘Game of Thrones’ gyda anobaith trasiedi Shakespearaidd King Lear, a nifer y cyrff yn cynyddu, y cwestiwn yw pwy fydd yn ennill y gêm?”
Cafodd y ddrama a berfformwyd yn Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu y gynulleidfa mwen ffitiau o chwerthin. Yn ystod y seremoni wobrwyo, gwobrwyodd y beirniad GODA Mike Kaiser y ‘Tlws Cynhyrchiadau Paul Elkington am lwyddiant technegol’ i CFfI Gelligaer am eu set drawiadol a’u gwisgoedd lliwgar!
‘Roedd gwobr nesaf y noson yn newydd sbon yn 2024 i berfformwr iau mwyaf addawol. Cafodd Gelligaer dri enwebiad yn yr adran yma, Huw am ei rôl fel Brenin, Ffion am ei rôl fel Snow Queen a Hollie am ei rôl fel Belle. Cafodd Huw ei goroni yn enillydd yn y categori yma!
Gwobr nesaf y noson oedd Perfformwraig Orau. Cafodd CFfI Gelligaer ddau enwebiad, Hollie am ei rôl fel Belle a Ffion am ei rôl fel Snow Queen gyda Ffion yn ennill!
Y pedwerydd wobr y noson oedd Perfformwr Gorau (Dyn). Cafodd Edmund Williams o CFfI Gelligaer ei enwebu am ei rôl fel Prince Charming. Yr enillydd oedd Deryn Evans o CFfI Llanfair ym Muallt am ei rôl fel Richard Hannay yn ‘39 Steps Abridged’.
Gwobr olaf y noson oedd Tlws E G H Trumper am y perfformaid gorau a gafodd ei wobrwyo i ‘Game of Tiaras’ gan CFfI Gelligaer.
Hoffai CFfI Cymru longyfarch CFfI Gelligaer o Forgannwg am eu llwyddiant ddydd Sul. Gyda gymaint o gynnydd yn eu haelodaeth dros y pedair mlynedd ddiwethaf, mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair iawn i’r clwb yma!
Fe fydd CFfI Gelligaer yn awr yn mynd ymlaen i gynrychioli CFfI Cymru yn ddiweddglo genedlaethol y FFCCFfI ar ddydd Sadwrn 20fed Ebrill 2024 yn Leamington Spa. Fe fydd yr ail dîm, CFfI Llanfair ym Muallt, hefyd yn cynrychioli Cymru gyda’u cynhyrchiad ‘The 39 Steps Abridged’. Pob lwc i’r ddau dîm!