Newyddion CFfI Cymru
Ffermwyr Ifanc yn Dangos eu Doniau Creadigol yn y Gegin gyda Cywain
Bydd ffermwyr ifanc yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth goginio a fydd yn amlygu cynnyrch Cymreig lleol a chynaliadwy.
Nod ‘Tyrd â’th Syniad i’r Bwrdd’, a lansiwyd gan Cywain mewn partneriaeth â Chlybiau Ffermwyr Ifanc (CFfI) Cymru, yw meithrin entrepreneuriaeth a dathlu bwyd a diod o Gymru.
Bydd y gystadleuaeth yn agored i aelodau CFfI; bydd yn rhaid iddynt ddefnyddio eu sgiliau coginio a’u gwybodaeth am fwyd a diod lleol er mwyn ymchwilio a pharatoi dau gwrs. Cyflwynir y rhain gerbron panel o feirniaid ar ffurf fideo.
Bydd gofyn paratoi prif gwrs a chwrs cyntaf neu bwdin. Bydd yn rhaid iddynt gynnwys cynhwysion gan ddau gynhyrchwr sy’n ymddangos ar Fap Cynhyrchwyr Cywain (cywain.cymru) a chynnyrch sy’n lleol i’r cystadleuwyr.
Mae Cywain yn brosiect gan Menter a Busnes sy’n cynorthwyo datblygiad busnesau sy’n ceisio sicrhau twf yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Mae Map Cynhyrchwyr Cywain yn cynnwys cynhyrchwyr bwyd a diod ar hyd a lled Cymru.
Bydd yn rhaid i’r cystadleuwyr fanteisio ar eu sgiliau ariannol hefyd, gan bod cyllideb o £30* wedi cael ei gosod. Yn ogystal, bydd yn rhaid iddynt argymell – ond nid prynu – diod i gyd-fynd â’u dewisiadau bwyd.
Bydd yr enillydd yn cael £600 ar gyfer eu Clwb, a bydd y rhai a fydd yn ail ac yn drydydd yn cael £250 a £150 i’w Clybiau.
Mae CFfI Cymru wedi penodi tri llysgennad hefyd – Cadi Mars, Elin Havard a Cennydd Jones – er mwyn helpu i hyrwyddo’r gystadleuaeth ymhlith ffermwyr ifanc.
Dywedodd Prif Weithredwr Menter a Busnes, Alun Jones, “Rydym wrth ein bodd o gael y cyfle i weithio mewn partneriaeth gyda CFfI Cymru ar y gystadleuaeth hon. Mae’n gyfle i aelodau CFfI ddangos eu sgiliau a hyrwyddo’r cynnyrch a’r cynhyrchwyr lleol iddyn nhw.
“Bydd y gystadleuaeth yn gofyn i’r cystadleuwyr ddangos amrediad o sgiliau busnes hefyd, gan gynnwys ymchwil, cyllid a chyflwyno. Bydd pecyn y wobr ar gyfer y Clwb buddugol yn cynnwys sesiwn fentora gan Menter a Busnes, a fydd yn canolbwyntio ar entrepreneuriaeth a sut i fynd ati i gychwyn busnes.
“Felly, mawr obeithiwn y bydd ‘Dewch â’ch Syniad i’r Bwrdd’ yn tanio sbarc entrepreneuraidd, gan annog pobl ifanc i lansio’u busnes eu hunain un diwrnod.”
Dywedodd Katie Court, Cadeirydd Pwyllgor Cystadlaethau CFfI Cymru, “Rydw i’n teimlo’n gyffrous iawn i weld yr ymdrechion yr aelodau ar draws y siroedd. Mae map Cywain yn amlygu’r gorau o blith cynnyrch Cymreig, a thrwy gyfuno hyn gyda thalent a menter aelodau CFfI, rydw i’n gwybod bod gwledd go iawn o’n blaenau!”