News

Ffermwyr Ifanc yn cystadlu mewn Gŵyl o Siarad Cyhoeddus

Carmarthenshire YFC, the joint winners of the Welsh Public Speaking Section

Teithiodd pobl ifanc ledled Cymru i Faes Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Llanelwedd ar gyfer Gŵyl Siarad Cyhoeddus CFfI Cymru a gynhaliwyd ar ddydd Sul y 26ain o Fawrth.

Mae’r Ŵyl yn gyfle i aelodau gystadlu mewn ystod eang o arddulliau trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg i wella eu sgiliau darllen, gan fynegi barn, dadlau a thrafod pynciau. Unwaith eto bu’r cystadlu’n ffyrnig a o safon yn uchel gyda’r canlyniadau’n agos ymhlith y siroedd.

Dangosodd yr aelodau eu sgiliau siarad cyhoeddus trwy amrywiaeth o gystadlaethau, gan gynnwys; Seiat Holi, Taclo’r Twyllwr, Dadlau a Darllen Iau. Roedd cyfleoedd hefyd i aelodau gystadlu mewn cystadleuaeth Ymgeisio am Swydd, sy’n helpu i ddatblygu sgiliau cyfweld pobl ifanc. Cystadleuaeth olaf y dydd oedd y gystadleuaeth dawnsio stryd. Ar ôl diwrnod hir o gystadlu, mae canlyniadau’r Adran Siarad Cyhoeddus Cymraeg fel a ganlyn:

9fed Brycheiniog

8fed Meirionnydd

7fed Clwyd

=5ed Eryri

= 5ed Ynys Môn

4ydd Maldwyn

3ydd Sir Benfro

=1af Sir Gâr

= Ceredigion 1af

Pembrokeshire YFC, the Winners of the English Public Speaking Section

Ac mae canlyniadau terfynol yr Adran Siarad Cyhoeddus Saesneg fel a ganlyn:

9fed Clwyd

8fed Morgannwg

7fed Maldwyn

6ed Maesyfed

5ed Ceredigion

=3ydd Gwent

=3ydd Brycheiniog

2il Sir Gâr

1af Sir Benfro

Dywedodd Endaf Griffiths, Aelod Hŷn y Flwyddyn CFfI Cymru 2023-24: “Dyma oedd fy nigwyddiad cyntaf fel Aelod Hŷn y Flwyddyn CFfI Cymru ac, yn anffodus, fy nigwyddiad Cystadlaethau Siarad Cyhoeddus olaf fel aelod. Ydw, dwi wir yn ‘aelod hŷn’!

Roedd yn ddiwrnod llwyddiannus a gwelwyd aelodau o bob cwr o Gymru yn dod ynghyd i feithrin y sgìl bywyd hollbwysig hwnnw – siarad yn gyhoeddus.

Ar nodyn personol, pleser oedd cael bod yn aelod o dîm buddugol cystadleuaeth y Ddadl Hŷn Gymraeg yng nghwmni dau aelod arall o CFfI Ceredigion (ac CFfI Pontsiân!) – Cennydd Jones a Naomi Nicholas-Jones – a hefyd o’r tîm Saesneg hŷn gyda’r un ddau ac Emily Lloyd-Williams.

Da iawn i bob aelod a gystadlodd a diolch i bawb fu’n eu hyfforddi dros yr wythnosau diwethaf.”

Montgomery YFC – Winners of the Street Dance Competition

Hoffai CFfI Cymru longyfarch ac estyn eu diolch i bawb a gymerodd ran, yn enwedig i’r Beirniaid, Stiwardiaid, yr aelodau a’r hyfforddwyr am roi o’u hamser ac am wneud y digwyddiad yn llwyddiant.